Cyfarwyddiadau
Gallwch ddefnyddio'r system ymgynhori ar-lein i ddarllen dogfennau a gyhoeddir gan y cyngor, naill ai i gynnig sylwadau yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus neu i weld sylwadau pobl eraill ar opsiwn safle, mater neu bolisi penodol.
Cofrestru, Mewngofnodi neu Ofyn am Gyfrinair Newydd
Defnyddiwch y dolenni yn y bar diogelwch ar draws pen y wefan hon. Mae ganddo gefndir du, ac mae'r dolenni mewn ysgrifen wen yn y gornel uchaf ar y dde.
Mae angen cofrestru a mewngofnodi'n unig os hoffech gynnig sylwadau; gallwch weld sylwadau heb gofrestru neu fewngofnodi.
Rwyf wedi anghofio fy nghyfrinair
Defnyddiwch y ffurflen wedi anghofio cyfrinair o'r ddolen ar y ffurflen mewngofnodi. Noder y cyfeiriad ebost a ddefnyddiwyd i gofrestru, wedyn cadwch lygad ar eich mewnflwch am gyfarwyddiadau pellach. Os nad ydych yn derbyn ebost, cymerwch gip yn eich ffolder sbam, er os nad oes gennym gofnod ohonoch, ni fyddwn yn anfon ebost atoch.
Cynnig sylwadau
Rhestrir y dogfennau cyfredol sydd ar agor i ymgynghoriad cyhoeddus ar y dudalen cartref . Dewiswch un o'r dogfennau o'r dudalen cynnwys, cliciwch ar y bennod, safle, mater neu bolisi sydd o ddiddordeb ichi.
I gynnig sylwadau, cliciwch ar y swigen siarad wrth ochr y mater neu bolisi sydd o ddiddordeb, er mwyn llenwi'r ffurflen ar-lein i gyflwyno wich sylw.
Gweld sylwadau
Gallwch ddarllen sylwadau heb gofrestru neu fewngofnodi.
Dewiswch un o'r dogfennau o dudalen gartref y Cynllun Lleol, ac wedyn o'r dudalen cynnwys, cliciwch ar y bennod, safle, mater neu bolisi sydd o ddiddordeb ichi.
I weld y sylwadau, cliciwch ar eicon y chwyddwydr wrth ochr y safle, mater neu bolisi sydd o ddiddordeb ichi, ac fe welwch grynodeb o'r rhestr o'r holl sylwadau a gyhoeddwyd.
Dangosir nifer y sylwadau mewn cromfachau wrth yr eiconau. Noder y caiff sylwadau a dderbynnir eu prosesu gan staff gweinyddol cyn eu cyhoeddi felly ni fydd sylwadau a gynigiwyd yn ddiweddar yn ymddangos yma ar unwaith.
Gweld Mapiau
Os oes map rhyngweithiol o safle neu faes polisi, bydd eicon map ar gael gerllaw'r disgrifiad neu'r polisi ar gyfer y safle dan sylw. I weld y map, cliciwch ar y eicon.
Cysylltwch â ni
Rhaid llenwi pob maes sydd wedi’i farcio â seren.