Hygyrchedd
Datganiad hygyrchedd
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i:
Defnyddio'r wefan hon
Caiff y wefan hon ei rhedeg gan Powys County Council / Cyngor Sir Powys. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:
- r newid lliwiau, lefelau cyferbyniol a ffontiau gan ddefnyddio’r porwr neu osodiadau’r ddyfais
- closio i mewn hyd at 400% heb i'r testun lifo oddi ar y sgrin
- llywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (yn cynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Gwyddom nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:
Mae mapiau wedi'u heithrio o ofynion hygyrchedd (gweler gofynion hygyrchedd y Llywodraeth ar gyfer gwefannau ac apiau'r sector cyhoeddus am ragor o wybodaeth am eithriadau.)
Darperir OpusMap gan Blue Fox Technology; Blue Fox Technology sy'n perfformio unrhyw brofion hygyrchedd ar OpusMap.
Mae OpusMap yn cydymffurfio ag arfer gorau OGC/W3C ar gyfer data gofodol ar y we hefyd mae safle OpusMap yn pasio WCAG 2.2 AA neu EN 301 549.
Gwybodaeth adborth a chyswllt
Os dewch o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu y teimlwch nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â Powys County Council / Cyngor Sir Powys gan ddefnyddio'r ffurflen ar waelod y dudalen cyfarwyddiadau
Os ydych angen gwybodaeth am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, cysylltwch â Powys County Council / Cyngor Sir Powys:
- Defnyddio'r ffurflen ar waelod y dudalen cyfarwyddiadau
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi.
Gweithdrefn gorfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y "rheoliadau hygyrchedd"). Os nad ydych yn hapus â'r ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (GCChC).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Powys County Council / Cyngor Sir Powys wedi ymrwymo i wneud eu gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfiaeth
Profwyd y wefan yn erbyn Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.2 safon AA.
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n llawn â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2 safon AA.
Cynnwys nad yw'n hygyrch
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Dogfennau PDF ac eraill
Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro dogfennau PDF nac eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.
Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddwn yn bodloni safonau hygyrchedd.
Baich anghymesur
Nid ydym yn hawlio baich anghymesur ar unrhyw ran o'r safle hwn.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 27/09/2023. Fe'i adolygwyd ddiwethaf ar 19/12/2024.
Profwyd gwefan OpusConsult ddiwethaf ar 13/09/2024. Cynhaliwyd y prawf gan JDi Solutions Ltd. Profwyd y tudalennau a welwyd fwyaf gan ddefnyddio offer profi awtomataidd gan ein tîm gwefannau. Cynhaliwyd archwiliad pellach o'r wefan i safon AA WCAG 2.2.
Dewiswyd tudalennau allweddol i'w profi. Profwyd:
Ar ein system brawf gyda'r thema Powys County Council / Cyngor Sir Powys ar waith:
- Dogfennau
- Tudalennau fy nghyfrif (Manylion, Cyfrinair, Pynciau, Drafftiau, Cyflwynwyd, Proseswyd)
- Ffurflenni
- Ffurflen mewnbynnu cynrychiolaeth Cefnogi/Gwrthwynebu
- Edrych ar ffurflen cefnogi/gwrthwynebu - gwybodaeth a gyhoeddwyd