Ffurflen Cyflwyno Safle Ymgeisiol

Daeth i ben ar 13 Rhagfyr 2022
Os ydych chi’n cael trafferth defnyddio’r system, rhowch gynnig ar ein canllaw cymorth.

Cynllun Datblygu Lleol Newydd Powys (CDLl Newydd) (2022-2037)

Ffurflen Cyflwyno Safle Ymgeisiol

Cyfarwyddiadau

Mae’r Cyngor yn annog cynigwyr safle i gwblhau’r ffurflen cyflwyniad Safle Ymgeisiol ar-lein. Mae’r ffurflen ar-lein yn galluogi cynigwyr safle i gynhyrchu a chyflwyno map, cael gwybodaeth am orfodi, gweld nodiadau cyfarwyddyd ac uwchlwytho dogfennaeth gefnogi. 

Caiff y wybodaeth a gyflwynwyd ar y ffurflen Safle Ymgeisiol ei defnyddio gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) i asesu pob Safle Ymgeisiol yn erbyn Methodoleg Asesu’r Safle Ymgeisiol. Nid yw cyflwyno Safle Ymgeisiol yn rhoi unrhyw warant y bydd y safle yn cael ei ddyrannu yn y Cynllun Datblygu Lleol Newydd.

Dylai cynigwyr safle gyfeirio at y ‘Nodiadau Cyfarwyddyd’ a ‘Methodoleg Asesu’r Safle Ymgeisiol’ wrth gyflwyno eu Safle Ymgeisiol. Mae’r ddwy ddogfen ar gael yn electronig ochr Cynllun Datblygu Lleol Newydd - Saleoedd Ymgeisiol - Cyngor Sir Powys.

Rhaid cwblhau ffurflen cyflwyno Safle Ymgeisiol ar wahân ar gyfer pob safle sy’n cael ei gyflwyno. Os fydd defnydd amgen yn cael ei gynnig ar gyfer yr un safle, bydd yn ofynnol cael ffurflen cyflwyno Safle Ymgeisio ar gyfer pob defnydd.

Mae’r ffurflen Safle Ymgeisiol yn gosod allan yr holl wybodaeth ofynnol i’r CDLl i ymgymryd ag asesiad cadarn. Felly mae’n bwysig bod cynigwyr safle yn cwblhau’r holl adrannau perthnasol ar y ffurflen. 

Bydd yr ‘Alwad’ am Safleoedd Ymgeisiol yn digwydd rhwng 1 Tachwedd 2022 a 13 Tachwedd 2022. Mae angen i ffurflenni Safle Ymgesiol sydd wedi eu cwblhau gael eu derbyn gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol erbyn 13 Rhagfyr 2022. 

Sut fyddwn ni’n defnyddio eich gwybodaeth

Ar 25 Mai 2018 daeth Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) i rym, gan osod cyfyngiadau ar sut all sefydliadau gadw a defnyddio data personol a diffinio hawliau mewn perthynas â’r data hwnnw. Caiff unrhyw wybodaeth bersonol sy’n cael ei datgelu i ni ei phrosesu yn unol â’n Hysbysiad Preifatrwydd. Gallwch weld Hysbysiad Preifatrwydd y Cyngor yma:  https://cy.powys.gov.uk/article/12957/Hysbysiad-Preifatrwydd-Polisi-Cynllunio

Bydd yr holl Safleoedd Ymgeisiol ar gael i’r cyhoedd eu harchwilio ar ffurf cofrestr Safle Ymgesiol ac felly ni ellir ei thrin yn gyfrinachol. Bydd manylion am y Safleoedd Ymgeisiol hefyd yn cael eu dosbarthu i randdeiliaid mewnol ac allanol i’w galluogi i gael eu hasesu fel rhan o broses y Cynllun Datblygu Lleol Newydd. Ni chaiff unrhyw wybodaeth bersonol ei chynnwys fel rhan o hyn.  

Bydd manylion cyswllt yr holl gynigwyr safle a’u hasiantaethau (ble y bo’n berthnasol) yn cael eu hychwanegu at gronfa ddata CDLl Newydd y Cyngor. Bydd y Cyngor yn gohebu â’r rhanddeiliaid drwy e-bost oni nodir fel arall. 

Mae’r holl ffurflenni a dogfennau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd iaith ddewisol y cyflwyniad yn cael ei thrin fel iaith ddewisol cyfathrebu. Rydym yn croesawu gohebiaeth yn y Gymraeg a byddwn yn ymateb yn y Gymraeg yn ddi-oed.

Os ydych chi’n cael trafferth defnyddio’r system, rhowch gynnig ar ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig