Cyflwyniad i'r Broses Arfarnu Cynaliadwyedd Integredig

Daeth i ben ar 10 Hydref 2022
Os ydych chi’n cael trafferth defnyddio’r system, rhowch gynnig ar ein canllaw cymorth.

Cyflwyniad i'r Broses Arfarniad o Gynaliadwyedd Integredig

Sut i Roi eich Barn i Ni

Byddem yn croesawu eich barn ar unrhyw agwedd ar y ddogfen hon. Ond byddem yn croesawu'n arbennig ymatebion i'r cwestiynau canlynol:

  1. Ydych chi'n cytuno â'r dull arfaethedig o ymdrin ag Arfarniad o Gynaliadwyedd Integredig y Cynllun Datblygu Lleol?
  2. A yw amcanion a chwestiynau arweiniol yr ISA sy'n rhan o Fframwaith yr ISA yn ymdrin ag ystod ddigonol o bynciau amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd? Os nad ydynt, pa amcanion y dylid eu diwygio a pha amcanion eraill y dylid eu cynnwys yn eich barn chi?

Trosolwg

Mae Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Newydd yn cael ei baratoi gan Gyngor Sir Powys (y Cyngor) ac mae angen Arfarniad o Gynaliadwyedd Integredig (ISA) i gyd-fynd ag ef. Mae'r ISA yn cael ei gynnal ar ran y Cyngor gan Wood a bydd yn gwerthuso perfformiad amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd y CDLl Newydd ac unrhyw ddewisiadau amgen rhesymol, gan helpu i sicrhau ei gyfraniad at ddatblygiad cynaliadwy cymunedau, economi ac amgylchedd yr ardal. Bydd y CDLl Newydd yn cynllunio ar gyfer anghenion ardal CDLl Powys (Sir Powys heb gynnwys yr ardal o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog) dros y cyfnod 2022 i 2037.

Gofynion

Mae'r ISA yn broses sy'n ymgorffori chwe gwerthusiad sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth ac ymrwymiadau eraill: Arfarniad o Gynaliadwyedd (AG/SA), Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS/SEA), Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC/HRA), Asesiad o'r Effaith ar Iechyd (AEI/HIA), Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb (AEC/EqIA) ac Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg (AEIG/WLIA), sydd i gyd yn gysylltiedig â'i gilydd (Ffigur 1).

Gorgyffwrdd rhwng y gwahanol fathau o asesu

Ffigur 1 Gorgyffwrdd rhwng y gwahanol fathau o asesu

Proses yr Arfarniad o Gynaliadwyedd Integredig

Mae proses yr Arfarniad o Gynaliadwyedd Integredig yn dechrau gyda chynhyrchu Adroddiad Cwmpasu a Fframwaith Arfarnu (gweler isod) a ddefnyddir i arfarnu effeithiau'r CDLl sy'n cael ei ddatblygu (gweledigaeth, amcanion, strategaeth ofodol y Cynllun gan gynnwys lefel twf, polisïau a dyrannu safleoedd, gan gynnwys dewisiadau amgen rhesymol). Bydd Adroddiad ISA terfynol yn cael ei baratoi i gyd-fynd â'r CDLl drafft i'w gyflwyno. Bydd hwn yn cael ei baratoi i fodloni gofynion y Rheoliadau SEA a bydd ar gael i ymgynghori arno ochr yn ochr â'r CDLl Newydd drafft cyn iddo gael ei ystyried gan arolygydd cynllunio annibynnol yn yr Archwiliad.

Yn dilyn Archwiliad, ac yn amodol ar unrhyw newidiadau sylweddol i'r CDLl Newydd drafft efallai y bydd angen arfarniad o ganlyniad i'r Archwiliad. Yna bydd y Cyngor yn cyhoeddi Datganiad Ôl-fabwysiadu cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl mabwysiadu'r CDLl Newydd. Bydd hwn yn nodi canlyniadau'r ymgynghoriad a'r broses ISA a sut y mae canfyddiadau'r ISA wedi'u cynnwys yn y CDLl Newydd mabwysiedig. Yn ystod cyfnod y CDLl, bydd y Cyngor yn monitro ei weithrediad ac unrhyw effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sylweddol.

Beth yw'r Fframwaith Arfarnu Arfaethedig?

Prif ddiben cam cwmpasu'r ISA yw nodi'r fframwaith ar gyfer arfarnu'r CDLl Newydd. Mae'r fframwaith yn cynnwys cyfres o amcanion a chwestiynau arweiniol a ddatblygwyd i adlewyrchu'r materion economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol cyfredol a allai effeithio ar (neu gael eu heffeithio gan) y CDLl Newydd a'r amcanion sydd wedi'u cynnwys mewn cynlluniau a rhaglenni eraill. Mae'r amcanion arfaethedig, y cwestiynau arweiniol a'r Nodau Llesiant Cenedlaethol ategol ar gyfer asesu'r CDLl Newydd fel a ganlyn:

Amcan 1 yr ISA: Darparu cartrefi o ansawdd da a seilwaith cymunedol i ddiwallu anghenion a nodwyd

A fydd y polisi neu gynnig yn…

  • Diwallu'r anghenion tai a nodwyd, gan gynnwys gofynion fforddiadwy ac arbenigol?
  • Sicrhau cymysgedd priodol o feintiau o anheddau, a mathau a deiliadaethau i ddiwallu anghenion pob sector o'r gymuned?
  • Darparu tai mewn lleoliadau cynaliadwy sy'n caniatáu mynediad hawdd i ystod o wasanaethau a chyfleusterau lleol?
  • Hyrwyddo datblygiad ystod o gyfleusterau cymunedol hygyrch o ansawdd uchel, gan gynnwys gwasanaethau arbenigol?

Cefnogi Nodau Llesiant Cenedlaethol: Cymru o gymunedau cydlynus; Cymru iachach; Cymru fwy cyfartal

Amcan 2 yr ISA: Creu a chefnogi economi a gweithlu cryf, amrywiol a gwydn

A fydd y polisi neu gynnig yn…

  • Darparu digon o dir i fusnesau dyfu?
  • Cefnogi creu swyddi newydd hygyrch?
  • Sicrhau bod cynhwysedd cyfleusterau addysgol yn cyd-fynd â thwf y boblogaeth?
  • Gwella bywiogrwydd a gwytnwch cymunedau?
  • Diogelu ardaloedd cyflogaeth presennol?
  • Creu cyfleoedd ar gyfer twristiaeth gynaliadwy a'i hyrwyddo, gan fanteisio'n sensitif ar asedau amgylcheddol, diwylliannol, treftadaeth a hamdden?
  • Creu cyfleoedd ar gyfer gwelliannau i'r economi wledig ac arallgyfeirio gwledig (gan gynnwys amaethyddiaeth, coedwigaeth, cyflogwyr bach a chanolig (BBaCh), microfusnesau a datblygu cysylltedd digidol)?

Cefnogi Nodau Llesiant Cenedlaethol: Cymru lewyrchus; Cymru gydnerth; Cymru fwy cyfartal; Cymru o gymunedau cydlynus

Amcan 3 yr ISA: Lleihau tlodi ac anghydraddoldeb; mynd i'r afael ag allgau cymdeithasol a hybu cydlyniant cymunedol

A fydd y polisi neu gynnig yn…

  • Cynorthwyo i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth i'r rhai mwyaf anghenus?
  • Ymdrin yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol ag ardaloedd sy'n dioddef amddifadedd a/neu ddirywiad?
  • Helpu i ddarparu gwell cyfleoedd addysg a chyrhaeddiad?

Cefnogi Nodau Llesiant Cenedlaethol: Cymru iachach; Cymru fwy cyfartal; Cymru o gymunedau cydlynus

Amcan 4 yr ISA: Gwarchod, hyrwyddo a gwella'r iaith Gymraeg a'i diwylliant

A fydd y polisi neu gynnig yn…

  • Diogelu a gwella cyfleoedd ar gyfer hyrwyddo a datblygu'r Gymraeg?
  • Effeithio ar gynaliadwyedd cymunedau Cymraeg eu hiaith (effeithiau cadarnhaol a/neu niweidiol)?
  • Effeithio ar addysg cyfrwng Cymraeg a dysgwyr Cymraeg o bob oed, gan gynnwys oedolion (effeithiau cadarnhaol a/neu niweidiol)?
  • Effeithio ar wasanaethau sydd ar gael yn Gymraeg (effeithiau cadarnhaol a/neu niweidiol)? (e.e. iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, trafnidiaeth, tai, digidol, ieuenctid, seilwaith, yr amgylchedd, llywodraeth leol ac ati)

Cefnogi Nodau Llesiant Cenedlaethol: Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu; Cymru o gymunedau cydlynus

Amcan 5 yr ISA: Gwella iechyd a lles pob rhan o gymdeithas

A fydd y polisi neu gynnig yn…

  • Cyfrannu at wella mynediad at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn enwedig mewn ardaloedd anghysbell/gwledig?
  • Cyfrannu at ostyngiad mewn anghydraddoldebau iechyd ymhlith gwahanol grwpiau yn y gymuned gan gynnwys plant a phobl hŷn yn benodol?
  • Cyfrannu at ffyrdd iach o fyw a hybu lles gan gynnwys cerdded a beicio?
  • Cyfrannu at wella mynediad i fannau gwyrdd naturiol, bywyd gwyllt, mannau agored gan gynnwys cyfleoedd ar gyfer chwarae, hamdden ac adloniant?
  • Cyfrannu at gynnydd mewn seilwaith gwyrdd?

Cefnogi Nodau Llesiant Cenedlaethol: Cymru lewyrchus; Cymru gydnerth; Cymru iachach; Cymru fwy cyfartal; Cymru o gymunedau cydlynus

Amcan 6 ISA: Gwneud y defnydd gorau o dir a ddatblygwyd o'r blaen ac adeiladau presennol a diogelu tir amaethyddol gradd uwch

A fydd y polisi neu gynnig yn…

  • Creu cyfleoedd i ddatblygu tir llwyd lle mae hyn yn gynaliadwy?
  • Gwarchod y tir gorau a mwyaf amlbwrpas rhag datblygiad?

Cefnogi Nodau Llesiant Cenedlaethol: Cymru gydnerth; Cymru iachach

Amcan 7 yr ISA: Cadw, gwarchod a gwella ansawdd dŵr ac adnoddau dŵr

A fydd y polisi neu gynnig yn…

  • Lleihau'r defnydd o ddŵr?
  • Sicrhau y gellir darparu cyflenwad digonol o ddŵr gan ystyried rhagamcanion presennol ac yn y dyfodol o ran argaeledd dŵr a defnydd dŵr?
  • Lleihau'r potensial ar gyfer halogi cyrff a chyrsiau dŵr?
  • Lleihau'r potensial i arferion amaethyddol gyfrannu at lygredd sy'n seiliedig ar nitradau mewn cyrff a chyrsiau dŵr?

Cefnogi Nodau Llesiant Cenedlaethol: Cymru gydnerth; Cymru iachach

Amcan 8 yr ISA: Cadw i isafswm neu leihau ffynonellau ac effeithiau llygredd aer

A fydd y polisi neu gynnig yn…

  • Lleihau'r angen i deithio?
  • Annog teithiau cynaliadwy (teithio llesol neu drafnidiaeth gyhoeddus)?
  • Osgoi unrhyw effeithiau andwyol ar ansawdd aer ac i bobl sy'n cael eu hamlygu i ansawdd aer gwael?
  • Gwella ansawdd aer mewn meysydd a nodwyd fel rhai sy'n peri pryder?
  • Hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o gerbydau trydan?
  • Hyrwyddo a hwyluso gwelliannau i rwydweithiau seilwaith gwyrdd i hwyluso'r gwaith o amsugno a gwasgaru NO2 a llygryddion eraill?

Cefnogi Nodau Llesiant Cenedlaethol: Cymru gydnerth; Cymru iachach; Cymru fwy cyfartal; Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Amcan 9 yr ISA: Lleihau'r gwastraff a gynhyrchir, annog ailddefnyddio ac ailgylchu a hyrwyddo defnydd effeithlon o adnoddau mwynol

A fydd y polisi neu gynnig yn…

  • Hyrwyddo adfer tir halogedig ac atal halogiad pellach?
  • Creu cyfleoedd i gynyddu cyfran y gwastraff sy'n cael ei ailgylchu a'i ailddefnyddio?
  • Hyrwyddo cyfleoedd i ddefnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu a deunyddiau eilaidd mewn adeiladu?
  • Hyrwyddo'r defnydd o ddeunyddiau cynaliadwy o ffynonellau lleol?
  • Creu cyfleoedd i ddiogelu adnoddau mwynol gwarchodedig?

Cefnogi Nodau Llesiant Cenedlaethol: Cymru gydnerth; Cymru iachach; Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Amcan 10 ISA: Cefnogi gwytnwch Powys i effeithiau posibl newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys llifogydd a digwyddiadau eithafol eraill

A fydd y polisi neu gynnig yn…

  • Osgoi datblygiad mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd, gan ystyried effeithiau tebygol newid hinsawdd yn y dyfodol?
  • Cynyddu gwytnwch yr amgylchedd adeiledig a naturiol i effeithiau newid hinsawdd?
  • Sicrhau bod y risgiau posibl sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd yn cael eu hystyried mewn datblygiadau newydd?
  • Gwella ac ymestyn rhwydweithiau seilwaith gwyrdd i gefnogi ymaddasu i newid yn yr hinsawdd?
  • Rheoli dŵr ffo yn gynaliadwy, gan leihau dŵr ffo wyneb?

Cefnogi Nodau Llesiant Cenedlaethol: Cymru gydnerth; Cymru fwy cyfartal; Cymru o gymunedau cydlynus; Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Amcan 11 yr ISA: Lleihau cyfraniad allyriadau nwyon tŷ gwydr at newid hinsawdd

A fydd y polisi neu gynnig yn…

  • Cynyddu nifer y datblygiadau newydd sy'n bodloni neu'n rhagori ar feini prawf dylunio cynaliadwy?
  • Lleihau'r defnydd o ynni o ffynonellau anadnewyddadwy?
  • Cynhyrchu ynni o ffynonellau carbon isel neu ddi-garbon?
  • Lleihau'r angen i deithio neu nifer y teithiau a wneir?
  • Hyrwyddo'r defnydd o ddulliau trafnidiaeth cynaliadwy, gan gynnwys cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus?
  • Sicrhau nad yw datblygiad yn cyfrannu at gynnydd pellach mewn defnydd uchel o ynni a theithio anghynaliadwy?
  • Gwella'r gwaith o ddarparu atebion seiliedig ar natur i addasu i newid yn yr hinsawdd a'i liniaru?

Cefnogi Nodau Llesiant Cenedlaethol: Cymru gydnerth; Cymru fwy cyfartal; Cymru o gymunedau cydlynus; Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Amcan 12 ISA: Hyrwyddo defnydd cynaliadwy o drafnidiaeth a lleihau'r angen i deithio

A fydd y polisi neu gynnig yn…

  • Lleihau'r angen i deithio trwy batrymau cynaliadwy o ddefnydd a datblygiad tir?
  • Annog newid moddol i ddulliau teithio mwy cynaliadwy?
  • Galluogi gwelliannau i'r seilwaith trafnidiaeth?
  • Cefnogi'r defnydd o gludiant carbon isel?
  • Cyfrannu at y rhwydwaith gwefru cerbydau trydan (EV)?
  • Hwyluso gweithio o gartref a gweithio o bell?
  • Darparu gwelliannau i a/neu leihau tagfeydd ar y rhwydwaith priffyrdd presennol?

Cefnogi Nodau Llesiant Cenedlaethol: Cymru gydnerth; Cymru fwy cyfartal; Cymru o gymunedau cydlynus; Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu; Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Amcan 13 ISA: Cadw a gwella adnodd treftadaeth Powys, gan gynnwys asedau adeiledig ac archeolegol

A fydd y polisi neu gynnig yn…

  • Cadw ac ychwanegu at arwyddocâd adeiladau a strwythurau o ddiddordeb pensaernïol, hanesyddol a diwylliannol, yn ddynodedig a heb eu dynodi, a'u lleoliad?
  • Gwarchod a gwella diddordeb arbennig, cymeriad ac ymddangosiad Ardaloedd Cadwraeth a'u lleoliadau?
  • Cadw a gwella olion archeolegol, ac ardaloedd archaeolegol sensitif?

Cefnogi Nodau Llesiant Cenedlaethol: Cymru gydnerth; Cymru fwy cyfartal; Cymru o gymunedau cydlynus

Amcan 14 ISA: Gwarchod a gwella bioamrywiaeth a geoamrywiaeth a hyrwyddo gwelliannau i'r rhwydwaith seilwaith gwyrdd amlswyddogaethol

A fydd y polisi neu gynnig yn…

  • Lleihau effeithiau ar fioamrywiaeth a darparu enillion net lle bo modd?
  • Diogelu a gwella rhwydweithiau ecolegol, gan gynnwys y rhai sy'n croesi ffiniau gweinyddol?
  • Gwarchod safleoedd sy'n werthfawr yn ddaearegol, gan gynnwys eu lleoliad?

Cefnogi Nodau Llesiant Cenedlaethol: Cymru Gydnerth; Cymru Iachach; Cymru sy'n Gyfrifol yn Fyd-eang

Amcan 15 ISA: Gwarchod ansawdd ac amrywiaeth tirweddau a threfluniau'r Sir

A fydd y polisi neu gynnig yn…

  • Sicrhau bod tirweddau a threfluniau gwerthfawr Powys yn cael eu cadw a'u gwella?
  • Sicrhau bod ansawdd y dyluniad yn cael ei ystyried fel rhan o bob gweithgaredd datblygu?

Cefnogi Nodau Llesiant Cenedlaethol: Cymru lewyrchus; Cymru Gydnerth; Cymru Iachach; Cymru Fwy Cyfartal; Cymru o Gymunedau Cydlynol; Cymru â Diwylliant Bywiog ac Iaith Gymraeg Ffyniannus; Cymru sy'n Gyfrifol yn Fyd-eang

Os ydych chi’n cael trafferth defnyddio’r system, rhowch gynnig ar ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig