Cyflwyniad i'r Broses Asesu Rheoliadau Cynefinoedd
Cyflwyniad i Broses yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA)
Cefndir
Bydd Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Newydd Powys yn cynllunio ar gyfer anghenion ardal CDLl Powys (Sir Powys ac eithrio'r ardal o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog) dros y cyfnod 2022 i 2037. Mae'n bwysig fod CDLl Newydd Powys yn cyfrannu at ddatblygiad cynaliadwy cymunedau, economi ac amgylchedd yr ardal. Er mwyn bodloni'r gofyniad hwn, mae'r Cyngor wedi penodi Wood Group UK Limited (Wood) i gynorthwyo ei asesiad o GDLl Newydd Powys. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys cynnal Arfarniad o Gynaliadwyedd Integredig y mae rhan ohono yn Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar wahân.
Mae'r ddogfen hon yn rhoi cyflwyniad i broses yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a fydd yn rhan o baratoi CDLl Newydd Powys. Mae cyflwyniad ar wahân ar gael sy'n esbonio proses yr Arfarniad o Gynaliadwyedd Integredig.
Beth yw Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA)?
Mae Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn broses i benderfynu a fydd unrhyw 'effeithiau sylweddol tebygol' ar unrhyw safleoedd cadwraeth natur dynodedig Ewropeaidd (a elwir bellach yn safleoedd Rhwydwaith Safleoedd Cenedlaethol) o ganlyniad i'r CDLl Newydd. Bydd hyn yn asesu effeithiau Cynllun Datblygu Lleol Newydd Powys ar: Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA), Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) a safleoedd Ramsar.
Dull a Materion Allweddol
Mae canllawiau ac arfer sefydledig mewn achosion yn awgrymu proses pedwar cam ar gyfer bodloni profion deddfwriaethol perthnasol y Rheoliadau Cynefinoedd, er na fydd angen pob cam o reidrwydd gan y gellir dod o hyd i ddewisiadau amgen i bolisïau neu gynigion penodol yn aml.
Data Ardal yr Astudiaeth a Safle Rhwydwaith y Safleoedd Cenedlaethol
Mae tua 63 o safleoedd wedi'u nodi fel rhai sy'n dod o fewn Powys, sydd o fewn 15km i ffin y Sir neu aberoedd i lawr yr afon sydd wedi'u cysylltu'n hydrolegol ag afonydd yn ardal CDLl Powys. Bydd data am y safleoedd Ewropeaidd a'u nodweddion diddordeb (h.y. cynefinoedd a/neu rywogaethau) yn cael eu casglu i gynnwys gwybodaeth am briodweddau'r safleoedd Ewropeaidd sy'n cyfrannu at ac yn diffinio eu cyfanrwydd, eu statws cadwraeth presennol, a sensitifrwydd penodol y safle, yn arbennig:
- ffiniau'r safle a ffiniau'r Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig cyfansoddol;
- yr amcanion cadwraeth;
- cyflwr, gwendidau a sensitifrwydd y safleoedd a'u nodweddion o ddiddordeb;
- y pwysau a'r bygythiadau presennol i'r safleoedd; a
- lleoliadau bras y nodweddion o ddiddordeb o fewn pob safle (os rhoddwyd gwybod amdanynt); a 'chynefinoedd gweithredol' dynodedig neu heb eu dynodi (os ydynt wedi cael eu nodi).
Materion Posibl yn ymwneud â HRA ar gyfer CDLl Newydd Powys
Ansawdd aer, pwysau ymwelwyr ac ansawdd dŵr yw'r tri phrif fater i'w hystyried fel rhan o'r broses o ymdrin â'r broses HRA wrth lunio a gweithredu'r cynllun.
Ansawdd Aer
Newidiadau i ansawdd yr aer a allai fod yn gysylltiedig â maint y twf datblygu a gynigir, yn bennaf yn ymwneud ag ystyried effeithiau cynnydd mewn traffig, yn ogystal ag effeithiau 'mewn cyfuniad' sy'n gysylltiedig â chynigion cynlluniau eraill.
Mynediad Cyhoeddus / Pwysau Ymwelwyr
Mae gan fynediad cyhoeddus y potensial i gael effaith andwyol ar safleoedd sensitif, yn enwedig y rhai sydd â dalgylchoedd ymwelwyr sylweddol ac amrywiaeth o ymddygiadau ymwelwyr. Gallai'r effeithiau hyn gynnwys materion fel ansawdd aer (sy'n gysylltiedig â thraffig ceir), aflonyddwch a difrod i gynefinoedd.
Ansawdd Dŵr a Niwtraliaeth Maetholion
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi nodi'r safleoedd canlynol yn y Rhwydwaith Safleoedd Cenedlaethol sy'n sensitif i ollyngiadau ffosffad ac sydd â dalgylchoedd yn rhannol ym Mhowys:
- ACA Afon Tywi
- ACA Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid
- ACA Afon Wysg
- ACA Afon Gwy
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn mynnu bod sylw arbennig yn cael ei roi i effeithiau tebygol cynigion datblygu ar safleoedd sy'n sensitif i ffosffadau, yn benodol sut y byddant yn cyflawni niwtraliaeth neu welliant o ran ffosffadau, er enghraifft trwy drin dŵr.
Y camau nesaf
Mae ymgysylltu parhaus yn digwydd â Chyfoeth Naturiol Cymru a chyrff eraill i gytuno ar union gwmpas a chynnwys yr HRA. Bydd Adroddiad HRA cychwynnol yn cael ei gynhyrchu ar gam y Strategaeth a Ffefrir a bydd yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'r Strategaeth a Ffefrir ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Mai 2023.