Y Strategaeth a Ffefrir
6. Yr Hierarchaeth Aneddiadau Cynaliadwy
Un o ofynion allweddol y CDLl Newydd yw sefydlu Hierarchaeth Aneddiadau Cynaliadwy. Diben Hierarchaeth Aneddiadau Cynaliadwy yw sicrhau bod y datblygiad iawn yn digwydd yn y lleoliadau iawn gyda'r mynediad gorau at amrywiaeth eang o wasanaethau, cyfleusterau a chyfleoedd cyflogaeth, gan leihau gymaint â phosibl y defnydd o geir a'r angen i deithio.
Cynhaliwyd asesiad o aneddiadau i lywio'r Hierarchaeth Aneddiadau Cynaliadwy ar gyfer y CDLl Newydd. Adolygodd yr asesiad gynaliadwyedd, rôl a swyddogaeth yr holl aneddiadau a nodir yn Hierarchaeth Aneddiadau CDLl Mabwysiedig Powys (2011–2026). Aseswyd cyfanswm o 162 o aneddiadau ac yna cawsant eu categoreiddio yn chwe haen, gyda'r aneddiadau Haen 1 mwyaf cynaliadwy yn darparu amrywiaeth eang o gyfleoedd gwasanaeth, cyflogaeth a thrafnidiaeth gynaliadwy. Cafodd yr aneddiadau lleiaf cynaliadwy sydd â mynediad cyfyngedig at gyfleoedd gwasanaeth, cyflogaeth a thrafnidiaeth gynaliadwy eu categoreiddio yn aneddiadau Haen 6. Dengys Ffigur 5 leoliad a dosbarthiad yr aneddiadau Haen 1 i Haen 6 ledled ardal y CDLl Newydd.
Ffigur 5 - Hierarchaeth Aneddiadau Cynaliadwy y CDLl Newydd
Mae ystyried y clystyrau daearyddol o aneddiadau yn ddull a ddefnyddir i adnabod y rôl, y swyddogaeth a'r rhyngweithio rhwng aneddiadau ar lefel y cynllun ac ar lefel leol.
Cynhaliwyd Dadansoddiad Clwstwr, sydd ar gael fel papur cefndir, i nodi clystyrau o aneddiadau ledled ardal y cynllun. Noda'r dadansoddiad berthynas swyddogaethol rhwng aneddiadau Haen 1 a Haen 2, sy'n gweithredu fel canolfannau gwasanaeth, ac aneddiadau cyfagos llai gan ddefnyddio meini prawf sy'n adlewyrchu Canlyniadau Cenedlaethol Creu Lleoedd Cynaliadwy. Wrth ddatblygu'r meini prawf ar gyfer clwstwr, rhoddwyd pwyslais ar hybu cyfleoedd trafnidiaeth cynaliadwy a'r cysyniad o 'fyw'n lleol' mewn awdurdod gwledig.
Er mwyn adlewyrchu polisïau Cymru'r Dyfodol, cafodd y Clystyrau Aneddiadau a nodwyd eu categoreiddio ymhellach fel 'Clystyrau Ardal Twf Rhanbarthol neu 'Clystyrau Lleol'.
Mae aneddiadau Haen 6 ac unrhyw aneddiadau eraill nad oes ganddynt berthynas swyddogaethol ag anheddiad Haen 1 neu 2 (canolfan wasanaeth) yn cael eu heithrio o'r clystyrau. Rhoddwyd ystyriaeth yn y dadansoddiad hefyd i ganolfannau gwasanaeth a leolir mewn ardaloedd awdurdodau cyfagos sydd â pherthynas swyddogaethol ag aneddiadau haen is a leolir yn ardal y CDLl. Canfu hyn fod sawl anheddiad Haen 3 ac un anheddiad Haen 5 sy'n clystyru gyda chanolfannau gwasanaeth a leolir ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (h.y. Talgarth ac Aberhonddu).
Dengys Ffigur 6 ddosbarthiad y Clystyrau a lleoliad yr aneddiadau sydd ynddynt.
Ffigur 6 - Clystyrau Aneddiadau yn y CDLl Newydd
Mae Cymru'r Dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i CDLlau nodi eu cymunedau gwledig, er mwyn asesu eu hanghenion a nodi polisïau i'w cefnogi nhw. Ystyria papur cefndir Dull Gwledig y ffordd orau o nodi cymunedau gwledig gan ddod i'r casgliad y dylid ystyried pob anheddiad sydd y tu allan i Glystyrau Aneddiadau yn 'Wledig'. Dengys Ffigur 7 ddiffiniad 'Ardaloedd Gwledig' a'r 'Aneddiadau nad ydynt yn rhan o Glwstwr' y dylid eu trin fel rhai Gwledig yn ôl y CDLl Newydd.
Ffigur 7 - Ardaloedd Gwledig ac Aneddiadau nad ydynt yn rhan o Glwstwr
Mae cefn gwlad Powys yn eang ac yn darparu ar gyfer llawer o anheddau anghysbell sy'n adlewyrchu sector economi amaethyddol a gwledig y Sir. Diffinnir ardal y CDLl Newydd y tu allan i aneddiadau Haen 1–Haen 6 fel 'Cefn Gwlad Agored'bydd yn cael ei diogelu rhag datblygiadau amhriodol.
Yn ardal y CDLl Newydd, mae ardal dylanwad llanw ger aber Afon Dyfi, i'r de-orllewin o Fachynlleth. Mewn polisi cenedlaethol, ystyrir yr ardal hon yn 'arfordir heb ei ddatblygu'. At ddibenion y CDLl Newydd, mae unrhyw gyfeiriadau at Gefn Gwlad Agored hefyd yn cynnwys yr arfordir heb ei ddatblygu a bydd yn cael ei ddiogelu rhag datblygiad amhriodol.
Mae'r tablau canlynol yn nodi'r Hierarchaeth Aneddiadau Cynaliadwy ar gyfer y Clystyrau Ardal Twf Rhanbarthol (Tabl 1), y Clystyrau Lleol (Tabl 2) a'r aneddiadau Ardal Gwledig/Nad ydynt yn rhan o Glwstwr (Tabl 3). Aneddiadau Haen 1, 2 a 3 yw'r lleoedd mwyaf cynaliadwy o ran darparu ar gyfer twf (dosberthir yr holl aneddiadau hyn yn Drefi neu'n Bentrefi Mawr yn hierarchaeth aneddiadau CDLl Mabwysiedig Powys (2011–2026)). Efallai y bydd aneddiadau haen is mewn Clwstwr Ardal Twf Rhanbarthol neu Glwstwr Lleol sydd â pherthynas swyddogaethol ag anheddiad Haen 1 neu Haen 2 yn gallu darparu ar gyfer twf cyfyngedig i gefnogi'r anheddiad haen uwch ac i ddiwallu angen cydnabyddedig.
Tabl 1. Hierarchaeth Aneddiadau Clwstwr Ardal Twf Rhanbarthol
Aneddiadau Clwstwr Ardal Twf Rhanbarthol
Haen 1
Y Drenewydd, Llandrindod, Llanfair-ym-Muallt a Llanelwedd, Y Trallwng,
Haen 2
Aber-miwl, Llanidloes, Rhaeadr Gwy
Haen 3
Aberriw, Arddlin, Betws Cedewain, Caersŵs, Castell Caereinion, Cegidfa, Ceri, Ffordun a Kingswood, Y Groes, Hawy, Llandinam, Llangurig, Llanllŷr, Pontnewydd-ar-Wy, Treberfedd, Trewern
Haen 4
Cilmeri, Heol Llanfair-ym-Muallt, Leighton, Llanarmon, Pentre, Pen-y-bont, Tal-y-bont, Y Trallwng
Haen 5
Aberbechan, Cwmbelan, Dolfor, Erwyd, Felin-fach, Garth, Garthmyl, Groes-lwyd, Llanddewi Ystradenni, Llanwrthwl, Pant-y-dŵr, Refail
Tabl 2. Hierarchaeth Aneddiadau Clwstwr Lleol
Aneddiadau Clwstwr Lleol
Haen 1
Machynlleth, Trefyclo, Ardal Ystradgynlais
Haen 2
Y Gelli Gandryll, Llanandras, Llandysilio, Llanfair Caereinion, Llanfyllin, Llanwrtyd, Trefaldwyn
Haen 3
Aber-craf, Aberllynfi, Bochrwyd a Llys-wen, Bronllys, Y Coelbren, Y Clas-ar-Wy, Cnwclas, Crew Green, Llandrinio, Llanfechain, Llansantffraid-ym-Mechain, Llanymynech, Meifod, Yr Ystog
Haen 4
Caehopcyn, Caerhywel, Derwenlas, Esgairgeiliog Ceinws, Llangadfan, Llangamarch, Norton, Penegoes
Haen 5
Beulah, Bwlchycibau, Cefngorwydd, Coedway, Glantwymyn, Kinnerton, Llanerfyl, Llowes
Tabl 3. Hierarchaeth Aneddiadau Ardal Gwledig/Nad ydynt yn rhan o Glwstwr
Aneddiadau Gwledig/Nad ydynt yn rhan o Glwstwr
Haen 3
Carno, Cleirwy, Llanbrynmair, Llangynog, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Llansilin, Maesyfed, Pen-y-bont-fawr, Pontrobert, Trefeglwys, Tregynon
Haen 4
Llandysul, Llan-ddew, Sarn, Stepaside
Haen 5
Abercegyr, Aberedw, Aberhafesb, Abertridwr, Adfa, Banc y Fron, Y Batel, Y Bontfaen, Castell-paen, Cei'r Trallwng, Cemaes, Clatter, Comins-coch, Cradoc, Cwm-bach, Cwm Linau, Einsiob, Y Fan, Felindre (Sir Frycheiniog), Y Foel, Ffynnon Gynydd, Groesffordd, Llanbadarn Fynydd, Llanbister, Llanfair Llythynwg, Llanfihangel, Llanfihangel Tal-y-llyn, Llanfilo, Llangedwyn, Llangynllo, Llanigon, Llannerch Emrys, Llanwddyn, Llanwnnog, Llanwrin, Manafon, Pentref Elan, Pen-y-bont, Pontffranc, Rhosgoch, Sarnau (Sir Drefaldwyn), Tanhouse, Walton, Llanddewi-yn-Hwytyn
Haen 6
Abaty Cwm-hir, Bleddfa, Bugeildy, Bwlch-y-ffridd, Capel Isaf, Cefn-coch, Darowen, Dolanog, Dolau, Felindre, Felin Newydd, Hundred House, Llan, Llandeglau, Llannewydd, Llawr-y-glyn, Lloyney, Nant-glas, Nantmel, Pencraig, Talerddig