Y Strategaeth a Ffefrir

Daeth i ben ar 7 Hydref 2024

10. Y Fframwaith Strategol Ehangach

Mae'r fframwaith strategol ehangach yn darparu'r polisïau strategol sy'n cefnogi ac yn galluogi'r Strategaeth a Ffefrir a'r CDLl Newydd i gael eu cyflawni yn eu cyfanrwydd. Mae'r Polisïau Strategol canlynol yn ymateb i'r Weledigaeth a'r Amcanion a byddant yn berthnasol ar gyfer penderfynu ar yr holl gynigion datblygu a wneir i'r ACLl hyd at 2037.

10.1 Seilwaith i Wasanaethu Datblygiad Newydd

Polisi Strategol SP11 - Seilwaith

Mae'n rhaid i gynigion datblygu gael eu hategu gan seilwaith presennol digonol neu seilwaith newydd.

Pan nad yw cynigion datblygu yn gallu dangos bod capasiti digonol yn y seilwaith presennol i gyflawni a chefnogi'r datblygiad arfaethedig, bydd angen i gynigion ddangos bod trefniadau a chyllid addas ar waith i ddarparu'r capasiti seilwaith yr ystyrir sy'n angenrheidiol i hwyluso'r datblygiad mewn modd amserol.

Yn ôl yr angen, er mwyn sicrhau bod effeithiau cynigion datblygu yn cael sylw llawn a gwneud cynigion datblygu yn dderbyniol, bydd cyfraniadau ar gyfer seilwaith yn cael eu sicrhau gan Amod Cynllunio neu Rwymedigaeth Gynllunio. Mewn achosion pan nad yw darpariaeth neu liniaru ar y safle yn briodol, gellir ceisio darpariaeth oddi ar y safle neu gyfraniad ariannol.

Mae'n hanfodol darparu seilwaith, gwasanaethau a chyfleusterau priodol er mwyn sicrhau bod polisïau a chynigion y Cynllun yn cael eu cyflawni. Mae seilwaith priodol yn allweddol i hwyluso datblygiad, ond mae hefyd yn angenrheidiol i gefnogi'r anghenion a'r gofynion cyfredol sy'n codi o'r datblygiad a'r cymunedau cynaliadwy.

Efallai y bydd angen amrywiaeth o seilwaith a bydd yn amrywio yn ôl natur, math, graddfa a lleoliad y datblygiad a chapasiti'r ddarpariaeth seilwaith presennol. Wrth ystyried anghenion y cynigion datblygu, efallai y bydd angen cyfraniadau tuag at y seilwaith, y gwasanaethau a'r cyfleusterau a ganlyn:

  • Priffyrdd a chyfleusterau trafnidiaeth eraill gan gynnwys trafnidiaeth gynaliadwy, trafnidiaeth gyhoeddus, Teithio Llesol a llwybrau cerdded a beicio eraill.
  • Tai Fforddiadwy.
  • Mannau Agored Cyhoeddus, seilwaith gwyrdd a glas.
  • Gwasanaethau cyfleustod, gan gynnwys uwchraddio a gwelliannau i Waith Trin Dŵr Gwastraff a seilwaith Cyflenwi Dŵr.
  • Lliniaru'r Gymraeg.
  • Ysgolion a chyfleusterau addysgol a hyfforddiant eraill.
  • Bioamrywiaeth, a diogelu a gwella'r amgylchedd.
  • Cyfleusterau cymunedol.
  • Seilwaith Digidol.
  • Cyfleusterau a gwasanaethau eraill yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol.

Mae'r CDLl Newydd wedi ei lywio gan Gynllun Seilwaith a fydd yn cael ei ddiweddaru i gynnwys y seilwaith sydd ei angen i hwyluso'r gwaith o gyflawni safleoedd penodedig.

Bydd rhagor o fanylion am gyfraniadau cynllunio yn cael eu cynnwys yn y Cynllun Adnau, gan ystyried hyfywedd datblygu a chost mesurau sy'n angenrheidiol i gyflawni datblygiad yn ffisegol, er mwyn sicrhau ei fod yn dderbyniol o ran cynllunio. Bydd y CDLl Newydd yn cael ei gefnogi gan arfarniad hyfywedd datblygu a danategir gan ragdybiaethau perthnasol a chadarn. Dylai hyn ddileu'r angen am ragor o asesiadau hyfywedd yn ystod y cam ceisiadau cynllunio, sy'n golygu mai dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y bydd trafodaethau hyfywedd yn cael eu cynnal. Mae'r rhagdybiaethau sy'n tanategu'r arfarniad hyfywedd yn cynnwys cyllid wrth gefn priodol ar gyfer cyfraniadau seilwaith yn unol â'r polisi hwn.

10.2 Newid Hinsawdd

Polisi Strategol SP12 - Newid Hinsawdd

Rhaid i bob cynnig datblygu ymateb yn gadarnhaol i heriau newid hinsawdd drwy ddangos ei fod yn lliniaru ei achosion ac yn addasu i'w effeithiau.

Bydd achosion newid hinsawdd yn cael eu lliniaru drwy sicrhau bod cynigion datblygu newydd yn gwneud yr hyn a ganlyn:

  1. Cyfrannu at ddatgarboneiddio â'u lleoliad, eu dyluniad, wrth gael eu hadeiladu, â chymysgedd o ddefnyddiau a, thrwy ddilyn egwyddorion creu lleoedd.
  2. Dilyn yr Hierarchaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy gan gynnwys, pan fo hynny'n briodol, darparu seilwaith gwefru Cerbydau Allyriadau Isel Iawn.
  3. Hybu egwyddorion economi cylchol drwy flaenoriaethu ailddefnyddio adeiladau presennol ac adeiladu adeiladau sy'n fwy addasadwy a pharhaol.
  4. Manteisio gymaint â phosibl ar effeithlonrwydd adnoddau a thechnegau adeiladu cynaliadwy, gan gynnwys ailddefnyddio deunyddiau adeiladu a chael gafael ar ddeunyddiau yn lleol.
  5. Cynnwys egwyddorion dylunio adeiladau cynaliadwy, gan ymgorffori technegau adeiladu goddefol pan fo hynny'n bosibl.
  6. Archwilio safonau adeiladu a dylunio sy'n uwch na'r rhai a bennir trwy reoliadau adeiladu fel bod cynaliadwyedd amgylcheddol yn cael ei optimeiddio, ac y gellid lleihau costau rhedeg gweithredol.
  7. Manteisio gymaint â phosibl ar y cyfleoedd atafaelu carbon sy'n deillio o seilwaith gwyrdd.
  8. Hybu'r broses o optimeiddio dewisiadau cyflenwi a dosbarthu ynni, gan gynnwys ystyried rhwydweithiau lleol a darparu rhwydweithiau gwresogi ardal.

Bydd cynigion datblygu newydd yn addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd drwy wneud yr hyn a ganlyn:

  • Bod yn gydnaws â'r dull ar sail risg o ymdrin â llifogydd, o osgoi, rheoli a lliniaru'r perygl o lifogydd o bob ffynhonnell (gan gynnwys dŵr wyneb a chyrsiau dŵr cyffredin) ac ymgorffori mesurau fel y bo'n briodol (megis draenio cynaliadwy a dyluniadau sy'n gallu gwrthsefyll llifogydd) gan flaenoriaethu atebion ar sail natur.
  • Ymgorffori mesurau effeithlonrwydd dŵr a lleihau gymaint â phosibl effeithiau andwyol ar adnoddau ac ansawdd dŵr.
  • Cael eu cynllunio i ymateb i hinsawdd sy'n newid.
  • Cael eu dylunio i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd gan ddefnyddio atebion seilwaith gwyrdd (e.e. atebion sy'n gwella bioamrywiaeth ac ecosystemau cydnerth, yn darparu mannau gwyrdd a chysylltedd, yn hybu cysgodi ac oeri trefol, neu'n cyfrannu at reoli adnoddau dŵr yn well).

Bydd yn ofynnol i Ddatblygiadau Mawr ddod gydag Adroddiadau Ynni i ddangos eu bod yn cydymffurfio â maen prawf E. Pan gynigir dymchwel adeilad presennol yn hytrach na'i ailddefnyddio, bydd angen Asesiadau Carbon Bywyd Cyfan i sicrhau cydymffurfiaeth â maen prawf C.

Mae Polisi SP12 yn ceisio sicrhau bod pob datblygiad newydd yn ymateb i newid yn yr hinsawdd drwy wneud yr hyn a ganlyn:

  • Lliniaru: sicrhau bod y dyluniad a'r gwaith adeiladu yn lleihau allyriadau carbon gymaint â phosibl, gan gynnwys mesurau i leihau'r ynni a ddefnyddir; ac
  • Addasu: sicrhau cydnerthedd i newidiadau patrymau tywydd a ragwelir, gan gynnwys digwyddiadau tywydd mwy eithafol megis llifogydd a gorboethi.

Mae effeithlonrwydd adnoddau ynni, gwres a dŵr yn elfen hanfodol o ddyluniad da (gweler Polisi SP16) a bydd lleihau'r galw am adnoddau yn helpu i gyflawni targedau mynd i'r afael â newid hinsawdd y DU, yn osgoi ôl-osod cartrefi newydd, yn lleihau pwysau ar adnoddau lleol megis cyflenwad dŵr ac yn lleihau costau rhedeg adeiladau yn yr hirdymor.

Bydd yn rhaid i ddatblygiad newydd ystyried a oes cyfleoedd i gyflawni safonau adeiladu cynaliadwy uwch, gan gynnwys di-garbon a pholisïau mwy manwl ar fesurau effeithlonrwydd, gan gynnwys gofynion Adroddiadau Ynni, a nodir yn y Cynllun Adnau.

Er mwyn sicrhau bod adnoddau cyfyngedig yn cael eu defnyddio mewn modd cynaliadwy, pryd bynnag y bo modd, dylai datblygiadau ddefnyddio agregau eilaidd ac wedi eu hailgylchu yn rhan o'r broses adeiladu. Pryd bynnag y bo modd, dylid gwneud hyn heb fynd â deunyddiau oddi ar y safle. Nodir polisi manwl ar gyfer Asesiadau Carbon Bywyd Cyfan yn y Cynllun Adnau ar gyfer amgylchiadau pan fo'n briodol disodli adeilad ar sail tystiolaeth ategol y gallai'r adeilad newydd allyrru llai o garbon na'r hyn a allyrrir trwy gadw ac addasu'r strwythur gwreiddiol.

Bydd atebion ar sail natur yn cael eu cefnogi ac mae mesurau megis toeau gwyrdd a lleiniau clustogi yn cynnig manteision lluosog, er enghraifft, drwy gefnogi mantais net i fioamrywiaeth a seilwaith gwyrdd.

10.3 Trafnidiaeth Gynaliadwy

Polisi Strategol SP13 - Trafnidiaeth Gynaliadwy mewn Aneddiadau Clwstwr Ardal Twf Rhanbarthol a Chlwstwr Lleol

Rhaid i gynigion datblygu mewn anheddiad mewn Clwstwr Ardal Twf Rhanbarthol neu Glwstwr Lleol gael eu cynllunio a'u lleoli mewn ffordd sy'n sicrhau bod datblygiadau'n cael eu lleoli a'u dylunio mewn ffordd sy'n lleihau gymaint â phosibl yr angen i deithio, yn lleihau'r ddibyniaeth ar gerbydau preifat ac sy'n galluogi mynediad cynaliadwy i gyflogaeth, gwasanaethau lleol a chyfleusterau cymunedol.

Mae'n rhaid i ddatblygiadau gael eu hategu gan seilwaith a mesurau trafnidiaeth priodol, ac yn ddibynnol ar natur, graddfa a lleoliad y cynnig, bydd yn ofynnol iddynt:

  • Gydweddu â'r hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy ar gyfer cynllunio.
  • Cael eu cynllunio i ddarparu mynediad diogel ac effeithlon i'r rhwydwaith trafnidiaeth, sy'n cynnwys rhwydweithiau Teithio Llesol, trafnidiaeth gyhoeddus a strydoedd.
  • Gwarchod, gwella ac ehangu'r rhwydweithiau Teithio Llesol a nodir ym Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol Presennol ac Arfaethedig y Cyngor, gan gynnwys cysylltiadau â'r rhwydweithiau hynny fel modd o wella cysylltedd.
  • Blaenoriaethu'r gwaith o gyflawni unrhyw fesurau a chynlluniau trafnidiaeth allweddol a nodir mewn cynlluniau a strategaethau rhanbarthol a lleol.
  • Lleihau dibyniaeth ar ddefnyddio cerbydau preifat drwy fanteisio gymaint â phosibl ar y posibilrwydd o symud i/o'r datblygiad ar drafnidiaeth gyhoeddus. Bydd datblygiad mewn aneddiadau Haen 1 a Haen 2 yn cael eu gwasanaethu gan lwybr cerdded sy'n arwain at rwydweithiau trafnidiaeth cyhoeddus.
  • Mabwysiadu dull o greu lleoedd wrth nodi, dylunio a chyflawni'r holl fesurau trafnidiaeth er mwyn cynyddu gymaint â phosibl eu cyfraniad at ddatblygu cynaliadwy.
  • Darparu seilwaith trafnidiaeth newydd a mesurau gwella er mwyn lliniaru effaith y datblygiad a dangos lefel a derbynioldeb yr effeithiau ar y rhwydwaith ffyrdd cyfagos.
  • Helpu i leihau'r llygredd a drosglwyddir trwy'r awyr sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth drwy alluogi dewisiadau teithio mwy cynaliadwy a lleihau teithiau mewn cerbydau modur preifat.
  • Sicrhau bod datblygiadau'n cael eu gwasanaethu gan ddarpariaeth parcio priodol, gan gynnwys seilwaith sy'n darparu ar gyfer datblygiadau technolegol yn y dyfodol megis mannau gwefru cerbydau trydan, ardaloedd cylchredeg a ffyrdd o led ddigonol i ganiatáu mynediad i gerbydau gwasanaeth.

Ni chaniateir datblygiad a fyddai'n cael effaith negyddol ar weithrediad diogel ac effeithlon y rhwydwaith trafnidiaeth.

Mae PCC yn nodi'n glir bod yn rhaid i'r Hierarchaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy (Ffigur 11) fod yn egwyddor allweddol wrth baratoi cynlluniau datblygu. Mae'r hierarchaeth drafnidiaeth yn blaenoriaethu cerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus cyn defnyddio cerbydau modur preifat. Fodd bynnag, mae hefyd yn cydnabod bod gan Gerbydau Allyriadau Isel Iawn rôl bwysig i'w chwarae o ran datgarboneiddio trafnidiaeth, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae gwasanaethau trafnidiaeth cyhoeddus yn gyfyngedig.

Ffigur 11 - Hierarchaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy Llywodraeth Cymru ar gyfer Cynllunio

Hierarchaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy Llywodraeth Cymru

Mae papur cefndir Cynllunio a Thrafnidiaeth Integredig sy'n cefnogi'r CDLl Newydd yn ystyried cyfleoedd trafnidiaeth cynaliadwy ledled ardal y Cynllun. Hefyd, mae'r methodolegau Asesiad o Aneddiadau a Dadansoddiad Clwstwr wedi eu cynllunio i roi blaenoriaeth i hybu'r aneddiadau sydd â'r ystod uchaf o gyfleoedd trafnidiaeth cynaliadwy yn unol â'r Hierarchaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy ac i leihau'r angen i deithio.

Mae'r CDLl Newydd yn canolbwyntio mwyafrif y twf i aneddiadau haenau uwch naill ai mewn Clystyrau Ardal Twf Rhanbarthol neu mewn Clystyrau Lleol. Mae'r strategaeth yn hybu'r cysyniad o 'Fyw'n Lleol', lle mae'r rhan fwyaf o'r datblygiad newydd o fewn pellter cerdded/beicio neu daith fer ar drafnidiaeth gyhoeddus i wasanaethau allweddol bob dydd, a fydd yn ei thro yn hybu gweithgarwch corfforol ac iechyd a llesiant y preswylwyr.

Term a ddefnyddir yng nghanllawiau'r Ddeddf Teithio Llesol i ddisgrifio cerdded, olwyno a beicio ar gyfer teithiau pwrpasol bob dydd teithiau bob dydd, megis mynd i'r gweithle neu sefydliad addysg ac oddi yno, neu er mwyn defnyddio gwasanaethau neu gyfleusterau iechyd, hamdden ac ati, yw Teithio Llesol.

Mae'r Rhwydwaith Teithio Llesol yn cynnwys Llwybrau Teithio Llesol presennol a'r dyfodol y dylid eu corffori i ddatblygiadau newydd pan fo hynny'n bosibl. Efallai y bydd angen i gynigion datblygu sy'n debygol o gynhyrchu lefelau symud sylweddol wneud darpariaeth am seilwaith Teithio Llesol a fydd yn cael ei sicrhau gan amod cynllunio neu Rwymedigaeth Gynllunio. Gallai hyn gynnwys elfennau o'r seilwaith sydd eu hangen i hwyluso Teithio Llesol o ddatblygiad drwy Lwybr Teithio Llesol yn y Dyfodol, fel y nodir ar y Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol.

Polisi Strategol SP14 - Trafnidiaeth Gynaliadwymewn Aneddiadau nad ydynt yn rhan o Glwstwr/Gwledig a Chefn Gwlad Agored

Rhaid i ddatblygiad mewn Anheddiad nad yw'n rhan o Glwstwr/Gwledig ac yng Nghefn Gwlad Agored lle mae'r gallu i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn gyfyngedig, gael ei gefnogi gan fesurau a seilwaith trafnidiaeth priodol, a chan ddibynnu ar natur, graddfa a lleoliad y cynnig, bydd angen iddo gyd-fynd â'r Hierarchaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy ar gyfer cynllunio drwy wneud yr hyn a ganlyn:

  • Corffori atebion dylunio a mynediad mewn datblygiadau sy'n hybu hygyrchedd.
  • Darparu llwybrau cerdded, olwyno a beicio sy'n cysylltu eiddo preswyl â gwasanaethau a rhwydweithiau seilwaith gwyrdd gan gynnwys hawliau tramwy cyhoeddus.
  • Cefnogi'r nifer sy'n manteisio ar Gerbydau Allyriadau Isel Iawn, gan gynnwys gosod pwyntiau gwefru cerbydau.
  • Lleihau'r angen i deithio drwy wella cysylltedd digidol.
  • Hybu mesurau sy'n lleihau'r defnydd o geir preifat, megis rhannu ceir.
  • Hwyluso cyfleusterau parcio ger canolfannau trafnidiaeth cyhoeddus a fydd yn galluogi rhannau o daith i gael eu gwneud ar drên neu fws.
  • Darparu seilwaith trafnidiaeth newydd neu well er mwyn lliniaru effaith y datblygiad a dangos lefel a derbynioldeb yr effeithiau ar y rhwydwaith ffyrdd cyfagos.
  • Sicrhau bod datblygiadau yn cael eu gwasanaethu gan ddarpariaeth parcio priodol, gan gynnwys ardaloedd cylchredeg a lled ffyrdd digonol i ganiatáu i gerbydau gwasanaeth gael mynediad.

Ni chaniateir datblygiad a fyddai'n cael effaith negyddol ar weithrediad diogel ac effeithlon y rhwydwaith trafnidiaeth.

O ystyried natur wledig ardal y Cynllun, cydnabyddir y gallai cymhwyso rhai elfennau o'r Hierarchaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy fod yn heriol i rai cynigion datblygu. Mae'r strategaeth yn cyfarwyddo'r rhan fwyaf o'r datblygiadau i aneddiadau sydd ag amrywiaeth o gyfleoedd trafnidiaeth cynaliadwy. Fodd bynnag, er mwyn mynd i'r afael ag anghenion lleol, cyflawni cymunedau gwledig cynaliadwy a chefnogi'r economi wledig, mae angen rhywfaint o ddatblygiadau mewn ardaloedd lle mae'r ddarpariaeth wasanaeth yn gyfyngedig o ran teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus.

Yn y meysydd hyn, bydd angen i gynigion datblygu ddefnyddio dull arall o fodloni'r hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy, yn unol â Pholisi Strategol SP14. Bydd angen i ymgeiswyr ddarparu cyfiawnhad clir mewn Datganiadau Dylunio a Mynediad i ddangos mesurau a gynhwysir i leihau teithio a dibyniaeth ar gerbydau modur preifat.

Bydd y Cynllun Adnau yn darparu fframwaith polisi manwl ar gyfer trafnidiaeth gynaliadwy a fydd yn cynnwys polisïau ar gyfer gwelliannau i drafnidiaeth, safonau priffyrdd a theithio llesol.

10.4 Perygl o Lifogydd

Polisi Strategol SP15 - Perygl o Lifogydd

Rhaid cyfeirio datblygiadau oddi wrth ardaloedd lle mae perygl o lifogydd a rhaid osgoi cynyddu'r perygl o lifogydd mewn mannau eraill. Bydd cynigion datblygu yn cael eu hystyried o'u cymharu â chanllawiau cenedlaethol, gan gynnwys yr angen i roi cyfrif am newidiadau yn yr hinsawdd. Wrth gyfiawnhau cynigion datblygu, efallai y bydd angen asesiad technegol manwl i sicrhau bod y datblygiad wedi ei gynllunio i ymdopi â'r bygythiad o lifogydd ac i liniaru canlyniadau llifogydd yn ystod ei oes. Dylid blaenoriaethu atebion ar sail natur i reoli'r perygl o lifogydd.

Mae perygl o lifogydd yn fater i lawer o gymunedau Powys lle mae aneddiadau a llwybrau cyfathrebu mawr sydd wedi eu lleoli mewn cymoedd afonydd. Yn ogystal â risg llifogydd afonol, rhaid i gynigion datblygu ystyried effeithiau sy'n gysylltiedig â dŵr wyneb a llifogydd dŵr daear.

Yn unol â PCC a TAN 15, rhaid cyfeirio datblygiadau a datblygiadau sydd dan fygythiad mawr yn benodol oddi wrth ardaloedd perygl o lifogydd a nodir ar Fap Llifogydd ar gyfer Cynllunio Cyfoeth Naturiol Cymru https://map-llifogydd-ar-gyfer-cynllunio.cyfoethnaturiol.cymru/

Rhaid i gynigion ddangos bod unrhyw effeithiau a chanlyniadau sy'n deillio o ddatblygiad yn dderbyniol ac na fyddant yn gwaethygu'r perygl o lifogydd mewn mannau eraill drwy leihau lle storio ar orlifdiroedd, yn cynyddu dŵr ffo nac yn rhwystro llifoedd llifogydd.

Pan fo angen, bydd angen i gynigion datblygu gorffori systemau draenio cynaliadwy priodol sy'n cydymffurfio â safonau cenedlaethol. Mae'r rhain yn amodol ar gymeradwyaeth gan Gorff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy y Cyngor.

10.5 Creu Lleoedd a Dylunio Da

Polisi Strategol SP16 - Dylunio Da

Bydd yn ofynnol i gynigion datblygu ddangos cysondeb ag egwyddorion creu lleoedd drwy ddylunio a chyflawni datblygiad a mannau cyhoeddus o ansawdd uchel sy'n hybu ffyniant, iechyd, hapusrwydd a llesiant pobl yn yr ystyr ehangaf, drwy:

  • Leoli datblygiadau'n briodol lle mae cartrefi, gwasanaethau a chyfleusterau lleol yn hygyrch ac wedi eu cysylltu'n dda.
  • Sicrhau dyluniad cynaliadwy o ansawdd uchel sy'n adlewyrchu'r gwahanolrwydd a'r cymeriad lleol, a'r hunaniaeth diwylliannol lleol.
  • Diogelu a, phan fo hynny'n briodol, gwella'r amgylcheddau naturiol, hanesyddol ac adeiledig gan ddangos dealltwriaeth o sut mae'r rhain yn gweithio gyda'i gilydd i gyfrannu at ansawdd lleoedd.
  • Cynyddu cysylltedd drwy lwybrau cerdded, beicio a thrafnidiaeth cyhoeddus byr sy'n groesawus ac yn gynhwysol er mwyn cyrraedd gwasanaethau bob dydd allweddol.
  • Creu cymysgedd amrywiol o ddefnyddiau a mannau amlswyddogaethol gan gynnwys cynlluniau tai sy'n cynnig amrywiaeth o fathau tai a deiliadaeth.
  • Datblygu dwysedd uchel pan fo hynny'n briodol, gwneud y defnydd mwyaf effeithlon o dir a chefnogi defnydd cymysg.
  • Integreiddio seilwaith gwyrdd i ddatblygiad er budd bywyd gwyllt a phobl.

Ni chaniateir cynigion datblygu sy'n arwain at golli cyfleusterau cymunedol a chymdeithasol heb gyfiawnhad, gan gynnwys mannau agored a darpariaeth chwaraeon, adeiladau cymunedol, tafarndai, siopau lleol a ffryntiadau adwerthu allweddol mewn canolfannau mwy.

Mae dylunio a chreu lleoedd da yn ystyriaethau pwysig ar gyfer pob cynnig datblygu. Rhaid cynllunio cynigion i gyflawni'r canlyniadau creu lleoedd cynaliadwy a ddiffinnir yn PCC er mwyn sicrhau bod datblygiad yn cyfrannu'n gadarnhaol at greu lleoedd ffyniannus a chynaliadwy sy'n diwallu anghenion trigolion ac ymwelwyr. Darperir canllawiau ychwanegol gan Gomisiwn Dylunio Cymru a darperir polisi ychwanegol yn y Cynllun Adnau ac fel Canllawiau Cynllunio Atodol yn sgil mabwysiadu'r CDLl Newydd.

Dylai Datganiadau Dylunio a Mynediad a gyflwynir gyda cheisiadau cynllunio gorffori Datganiad Creu Lleoedd a ddylai fod yn gymesur â natur a graddfa y datblygiad, gan nodi sut mae'r cynnig yn cyd-fynd â'r meini prawf a nodir mewn polisi.

Polisi Strategol SP17 - Creu Lleoedd Iach

Bydd pob datblygiad yn ceisio creu lleoedd iach a chynhwysol sy'n lleihau anghydraddoldeb iechyd ac yn gwella cydlyniant cymdeithasol. Cyflawnir hyn drwy:

  • Sicrhau bod cynigion datblygu wedi eu cynllunio i hwyluso amgylcheddau iach sy'n hygyrch.
  • Cynllunio datblygiadau gyda'r cysyniad o "fyw'n lleol".
  • Sicrhau bod pob lle a datblygiad mor gynhwysol â phosibl, sy'n gallu addasu i ystod eang o anghenion newidiol a chyflawni ansawdd bywyd uchel, lle nad oes neb yn cael ei allgáu.
  • Galluogi cyfleoedd i gael gafael ar ddewisiadau bwyd iach.
  • Diogelu cyfleusterau cymunedol a gofal iechyd newydd a gwell, a chefnogi'r broses o'u darparu.

Bydd cynigion sy'n darparu neu'n gwella cyfleusterau cymunedol, hamdden ac adloniant yn cael eu cefnogi mewn egwyddor (yn amodol ar ystyriaethau cynllunio manwl) oherwydd eu bod yn tanategu iechyd a llesiant corfforol a meddyliol ac yn cyfrannu at gydlyniant cymunedol. Cymhwysir dull dilyniannol Rhoi Canol Trefi yn Gyntaf i gynigion o'r fath.

Ni chaniateir cynigion datblygu sy'n arwain at golli cyfleusterau cymunedol, hamdden ac adloniant heb gyfiawnhad.

Bydd yn ofynnol cynnal Asesiadau o'r Effaith ar Iechyd ar gyfer datblygiadau mawr, er mwyn ystyried eu goblygiadau iechyd yn llawn.

Gall y system gynllunio a'r datblygiad gyfrannu'n gadarnhaol at iechyd a llesiant mewn sawl ffordd. Er enghraifft, drwy ymgorffori cysyniad "Byw'n lleol", gellir gwneud lleoedd yn fwy cynhwysol a deniadol gyda chyfleoedd teithio llesol i amrywiaeth o wasanaethau, sy'n galluogi pobl i fwynhau ffyrdd llesol ac iach o fyw.

Bydd angen Asesiad o'r Effaith ar Iechyd gyda cheisiadau sy'n cynnig datblygiadau mawr (10 annedd neu fwy, ac ati) er mwyn dangos sut mae'r datblygiad wedi ystyried a mynd i'r afael â goblygiadau iechyd. Paratowyd canllawiau ar gwblhau Asesiad o'r Effaith ar Iechyd gan Uned Asesu Effaith Iechyd Cymru.

Cefnogir cynigion am gyfleusterau cymunedol, hamdden ac adloniant newydd mewn egwyddor a ffefrir lleoliadau canol tref ar gyfer datblygiadau ar raddfa fawr yn unol â pholisi Rhoi Canol Trefi yn Gyntaf Cymru'r Dyfodol. Ni fydd colli cyfleusterau o'r fath yn dderbyniol oni bai bod cyfiawnhad, a bydd polisi manwl ychwanegol yn cael ei ddarparu yn y CDLl Adnau.

10.6 Seilwaith Gwyrdd, Adfer Natur a'r Amgylchedd Naturiol

Polisi Strategol SP18 - Adfer Natur

Er mwyn cynnal a gwella bioamrywiaeth, bydd yn ofynnol i gynigion datblygu ddangos sut maent yn diogelu, yn rheoli'n gadarnhaol ac yn gwella buddiannau bioamrywiaeth a geoamrywiaeth, gan gynnwys adfer ecosystemau a gwella cydnerthedd bioamrywiaeth drwy well cysylltedd y cynefinoedd sydd ar y safle a thu hwnt i'r safle.

Er mwyn cyflawni hyn, mae'n rhaid i'r holl ddatblygiadau wneud yr hyn a ganlyn:

  • Dangos y bu mantais net cyffredinol i fioamrywiaeth yn gymesur â natur a graddfa y datblygiad.
  • Sicrhau bod rhywogaethau a chynefinoedd y DU/Ewropeaidd a ddiogelir yn cael eu diogelu yn unol â gofynion statudol.
  • Diogelu cyfanrwydd safleoedd dynodedig statudol ac anstatudol gan sicrhau eu bod yn cael eu diogelu a'u rheoli'n briodol.
  • Cael eu cyfeirio oddi wrth ardaloedd o werth ecolegol uchel gan gynnwys ardaloedd a nodir fel Llecynnau Cyfoethog o ran Bioamrywiaeth yn Cymru'r Dyfodol.
  • Ymgorffori seilwaith gwyrdd ar gamau cynnar y broses ddylunio, sy'n diogelu ac yn gwella nodweddion presennol y safle ac yn gwella cysylltedd y rhwydwaith ecolegol.
  • Ymgorffori atebion ar sail natur mewn datblygiadau er mwyn cefnogi bioamrywiaeth a meithrin cydnerthedd ecosystemau ar y safle ac yn yr ardal ehangach.

Ni chaniateir datblygu ar safleoedd eraill (heb eu dynodi) na choridorau bywyd gwyllt sydd â gwerth bioamrywiaeth, na rhai sy'n cael effaith andwyol arnynt, oni bai y gellir dangos bod yr angen am y datblygiad yn fwy nag unrhyw niwed a achosir gan y datblygiad ac y gellir darparu mesurau manteision bioamrywiaeth net priodol.

Cyflwynodd Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ddyletswydd uwch yn ymwneud â bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau-Dyletswydd Adran 6-i awdurdodau cyhoeddus. Wrth arfer eu swyddogaethau, mae'r ddyletswydd hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth drwy sicrhau nad yw datblygiadau yn peri unrhyw golled sylweddol o ran cynefinoedd neu boblogaethau o rywogaethau, ac mae'n rhaid iddynt ddarparu mantais net i fioamrywiaeth.

Mae Cymru'r Dyfodol yn cydnabod bod Powys yn cynnwys llecynnau cyfoethog o ran bioamrywiaeth a choridorau ecolegol pwysig, gan gynnwys rhai ar raddfa tirwedd, a dylid cyfeirio datblygiadau oddi wrth yr ardaloedd hyn. Mae coridorau seilwaith gwyrdd (gweler Polisi SP20) yn darparu cyfleoedd i rywogaethau fudo a gwasgaru, gan alluogi cyfnewid genetig sy'n gwella cydnerthedd rhywogaethau yn yr amgylchedd ehangach, a dylid diogelu rhwydweithiau o'r fath rhag datblygiadau amhriodol.

Bydd yn ofynnol i bob cynnig datblygu ddangos y gellir cyflawni mantais net i fioamrywiaeth. Mae'r camau gweithredu sy'n darparu mantais net i fioamrywiaeth yn cynnwys creu cynefinoedd newydd, rheoli cynefinoedd diraddiedig presennol yn yr hirdymor, creu coridorau cysylltedd sy'n cysylltu cynefinoedd anghysbell, y mae pob un ohonynt yn cyfrannu at wella cydnerthedd ecosystemau ac yn cefnogi adferiad natur. Rhaid i fanteision fod yn hirdymor, yn fesuradwy, yn ddangosadwy, ac yn bennaf ar y safle.

Mae geoamrywiaeth yn cynnwys asedau megis wynebau creigiau pwysig, chwareli a thirffurfiau geomorffolegol a phriddoedd pwysig gan gynnwys mawn. Rhaid i gynigion datblygu osgoi niweidio asedau o'r fath, a allai fod o arwyddocâd gwyddonol neu amgylcheddol, yn enwedig os ydynt wedi eu nodi yn rhai sydd o bwys rhanbarthol.

Polisi Strategol SP19 - Yr Amgylchedd Naturiol

Rhaid i gynigion datblygu ddiogelu a gwella'r amgylchedd naturiol ac ni chânt eu caniatáu pan fyddant yn cael effaith andwyol annerbyniol ar yr hyn a ganlyn:

  • Tir a ddynodir ar lefel rhyngwladol, cenedlaethol a lleol er mwyn diogelu'r amgylchedd.
  • Cymeriad ac ansawdd tirwedd Powys.
  • Bioamrywiaeth a chynefinoedd ardal y cynllun.
  • Ansawdd adnoddau naturiol yr ardal gan gynnwys dŵr, aer a phridd, gan gynnwys mawn.
  • Cymeriad ac ansawdd cefn gwlad ac adnoddau gwledig yr ardal, gan gynnwys coed, coetiroedd a gwrychoedd.

Mae gan Bowys fioamrywiaeth bras ac amrywiol gydag ystod eang o rywogaethau, cynefinoedd a thirweddau unigryw, bras gyda safleoedd o bwys rhyngwladol a chenedlaethol ac ardaloedd eraill o bwys rhanbarthol a lleol fel y nodir yn Nhabl 9.

Tabl 9. Dynodiadau Amgylchedd Naturiol yn Ardal y Cynllun Datblygu Lleol Newydd

Dynodiad

Math/Ffynhonnell

Y Nifer sydd yn Ardal y Cynllun neu sy'n Croestorri ag Ardal y Cynllun

Ardal Cadwraeth Arbennig

Statudol

13

Ardal Gwarchodaeth Arbennig

Statudol

3

Safleoedd Ramsar

Statudol

1

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig

Statudol

225

Gwarchodfa Natur Genedlaethol

Statudol

9

Gwarchodfa Biosffer UNESCO

Anstatudol

1-Biosffer Dyfi

Geoparciau UNESCO

Anstatudol

0 (Mae Geoparc Fforest Fawr ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog)

Safleoedd o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur a Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol

Anstatudol

122

(2 Safle o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur, 119 Safle Bywyd Gwyllt Lleol, 1 arall

Gwarchodfa Natur Leol

Anstatudol

1

Safleoedd Geoamrywiaeth o Bwys Rhanbarthol

Anstatudol

105

Ardaloedd Adnoddau Naturiol Cenedlaethol Posibl

(Cymru'r Dyfodol)

Cynllun Datblygu

Mynyddoedd Cambria

Y Mynyddoedd Duon

Bannau Brycheiniog

Rhwydweithiau ecolegol cadarn/

Mapiau Rhwydwaith Natur (Cyfoeth Naturiol Cymru)

Datganiadau Ardal/Asesiadau Seilwaith Gwyrdd

Polisi sy'n dod i'r amlwg/gwaith cyfredol yn rhan o Gynllun Adnau/Ar y gweill

Yn ogystal â'r dynodiadau amgylchedd naturiol, mae tirwedd Powys yn cwmpasu ardaloedd mawr o dir fferm gyda ffiniau caeau traddodiadol, dyffrynnoedd afonydd, bryn a llwyfandiroedd ucheldirol agored, corsydd mawn ucheldirol, coetiroedd ac ardaloedd o ddŵr agored. Mae Powys wedi cyhoeddi Asesiad Cymeriad Tirwedd sy'n rhoi canllawiau ar sut y dylid ystyried cymeriad y dirwedd wrth ddylunio datblygiadau ac er mwyn llywio penderfyniadau cynllunio. Mae'r Asesiad Cymeriad Tirwedd yn ystyried yr hyn sy'n cael ei werthfawrogi neu sy'n nodweddiadol ac felly mae'n darparu gwahanolrwydd mewn ardal cymeriad tirwedd penodol ac yn amlygu sensitifrwydd a rhinweddau y gallai datblygiad effeithio arnynt. Mae'r canllawiau'n ceisio sicrhau bod newid yn y dyfodol yn parchu cymeriad lleol. Cefnogir yr Asesiad Cymeriad Tirwedd gan 61 o broffiliau Ardal Cymeriad Tirwedd.

Lleolir 11 o'r 58 o Dirweddau Cofrestredig o Ddiddordeb Hanesyddol yng Nghymru yn gyfan gwbl neu'n rhannol ym Mhowys. Efallai y bydd angen asesu effaith datblygiadau sy'n effeithio ar y tirweddau hyn o dan broses 'Asesu Effaith Datblygu ar Dirweddau Hanesyddol' (ASIDOHL2).

Bydd cynigion datblygu hefyd yn cael eu hystyried o'u cymharu â'r effeithiau y gallent eu cael ar rinweddau neu ddibenion arbennig Parciau Cenedlaethol neu Ardaloedd Tirwedd Cenedlaethol (AHNE) cyfagos. Mae gan y Cyngor ddyletswydd o dan Adran 62 (2) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 i warchod a gwella bywyd gwyllt, harddwch naturiol a threftadaeth ddiwylliannol Parciau Cenedlaethol.

Dylid cynnal dyfroedd wyneb a dŵr daear er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni statws da yn gyffredinol erbyn 2027, yn unol â Rheoliadau'r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) 2017. Dylid diogelu dŵr wyneb rhag gollyngiadau sy'n cael effeithiau negyddol ar ansawdd dŵr, gan gynnwys solidau a maetholion crog.

Er bod ansawdd yr aer ledled Powys yn dda ar y cyfan, gall datblygiadau beri cynnydd mewn llygredd aer nwyol a gronynnol yn ystod gwaith adeiladu a chan ddefnyddwyr terfynol y datblygiad. Dylai datblygiad newydd geisio nodi'r modd o liniaru'r posibilrwydd o lygredd aer, gan gynnwys archwilio technolegau ynni adnewyddadwy ar gyfer gwresogi gofod.

Ceir tir Amaethyddiaeth Gorau a Mwyaf Amlbwrpas ledled Powys; dylid cyfeirio datblygiadau oddi wrth y tir hwn i'w warchod ar gyfer cynhyrchu bwyd. Mae priddoedd sy'n fras o ran carbon, gan gynnwys mawn, yn ddalfeydd carbon pwysig ac maent yn cyfrannu at strategaethau lliniaru hinsawdd. Gall tarfu ar briddoedd o'r fath arwain at sychu, a rhyddhau carbon deuocsid. Dylai cynigion datblygu osgoi ardaloedd mawn a dylid ymchwilio i gyfleoedd sy'n cynyddu'r gorchudd mawn.

Mae coed, coetiroedd a gwrychoedd yn cynnig buddion lluosog, gan gynnwys amwynder gweledol, diffinio ymdeimlad o le, darparu lleoedd ar gyfer ymlacio ac adloniant, cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt, coridorau ecolegol a chynorthwyo i liniaru effeithiau y newid yn yr hinsawdd. Bydd coed, coetiroedd a gwrychoedd o fwynder cyhoeddus sylweddol neu werth bioamrywiaeth, gan gynnwys coetiroedd hynafol diffiniedig, yn cael eu diogelu.

Polisi Strategol SP20 - Seilwaith Gwyrdd

Rhaid i gynigion datblygu integreiddio, diogelu a chynnal asedau seilwaith gwyrdd presennol a rhai a warchodir, a chroesawu cyfleoedd i wella rhychwant, ansawdd, cysylltedd ac amlswyddogaethedd y rhwydwaith seilwaith gwyrdd. Pan na ellir osgoi colli neu ddifrodi seilwaith gwyrdd presennol, bydd angen lliniaru a gwneud iawn am hyn yn briodol.

Rhaid i bob datblygiad fanteisio gymaint â phosibl ar:

  • Swm y seilwaith gwyrdd sydd ar y safle.
  • Rhyng-gysylltedd yr asedau seilwaith gwyrdd sydd ar y safle ac o'i amgylch, ac i'r rhwydwaith seilwaith gwyrdd ehangach.
  • Cyfleoedd i gyflawni atebion amlswyddogaethol ac ar sail natur drwy ddod â swyddogaethau seilwaith gwyrdd ynghyd, er mai gwarchod a gwella bioamrywiaeth a chysylltedd cynefinoedd a rhywogaethau â blaenoriaeth a ddylai fod yn ystyriaeth bennaf.

Dylai'r holl gynigion datblygu ddangos o'r dechrau sut mae seilwaith gwyrdd wedi ei ystyried a'i integreiddio drwy ddod gyda Datganiad Seilwaith Gwyrdd. Dylai hyn fod yn gymesur â graddfa a natur y datblygiad a gynigir, gan ddisgrifio sut mae seilwaith gwyrdd wedi ei gorffori yn y cynigion. Dylid cysoni gwrthdaro posibl rhwng gwahanol elfennau o'r seilwaith gwyrdd yn rhan o'r Datganiad Seilwaith Gwyrdd. Pan fo hynny'n berthnasol, rhaid i'r Datganiad nodi sut y bydd gosodiad a dyluniad y cynllun yn cyfrannu at unrhyw Strategaeth Seilwaith Gwyrdd lleol neu ranbarthol a gyhoeddwyd, neu'n gydnaws â hi.

Diffinia PCC seilwaith gwyrdd fel "y rhwydwaith o nodweddion naturiol a lled-naturiol, mannau gwyrdd, afonydd a llynnoedd sydd ar wasgar rhwng lleoedd ac yn eu cysylltu. Ar raddfa y dirwedd, gall seilwaith gwyrdd gynnwys ecosystemau cyfan (e.e. gwlyptiroedd, dyfrffyrdd, mawndiroedd a chadwyni mynyddoedd) neu fod yn rhwydweithiau cysylltiedig o gynefinoedd mosäig, gan gynnwys glaswelltiroedd. Ar y raddfa leol, gallai gynnwys parciau, caeau, coed a choedwigoedd, pyllau, mannau gwyrdd naturiol, hawliau tramwy cyhoeddus, rhandiroedd, mynwentydd a gerddi, neu nodweddion a reolir (e.e. cynlluniau draenio cynaliadwy) ac, ar y raddfa unigol, gallai fod yn goed stryd, ynysoedd cylchfan, gwrychoedd, ymylon a thoeau/waliau gwyrdd".

Dylid cynnal Archwiliad ac Asesiad Seilwaith Gwyrdd i lywio cynigion datblygu. Bydd hyn yn nodi ardaloedd i'w diogelu a chyfleoedd ar gyfer gwelliant. Dylai'r Archwiliad a'r Asesiad ddefnyddio tystiolaeth ar sail map, gan gynnwys yr Asesiad Seilwaith Gwyrdd sy'n llywio'r CDLl Newydd (gweler Atodiad 7). Rhaid i geisiadau cynllunio ddod gyda Datganiad Seilwaith Gwyrdd sy'n nodi ac yn cyfiawnhau'r dull a gynigir a sut mae cynigion yn cefnogi nodau Cynllun Gweithredu Adfer Natur Powys a Datganiad Ardal Canolbarth Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru.

Cynhwysir polisi ychwanegol yn y CDLl Adnau a bydd Canllawiau Cynllunio Atodol yn cael eu paratoi ar ôl mabwysiadu'r CDLl. Darperir rhagor o wybodaeth a chanllawiau gan safonau Building with Nature.

10.7 Yr Amgylchedd Adeiledig a Hanesyddol

Polisi Strategol SP21 - Yr Amgylchedd Adeiledig a Hanesyddol

Bydd datblygiad newydd yn parchu hunaniaeth leol, treftadaeth a gwahanolrwydd ardal y cynllun gan gynnwys ei hasedau diwylliannol, gosod tirwedd a threflun.

Rhaid i gynigion datblygu ddiogelu, cadw a gwella arwyddocâd asedau hanesyddol a'u lleoliadau, gan gynnwys:

  • Adeiladau Rhestredig a'u cwrtilau.
  • Ardaloedd Cadwraeth.
  • Tirweddau Hanesyddol Cofrestredig.
  • Gerddi a Pharciau Hanesyddol Cofrestredig.
  • Gweddillion Archeolegol o Bwys Cenedlaethol gan gynnwys Henebion Cofrestredig, a Gweddillion Archeolegol Eraill.
  • Rhestriadau yn y Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol.

Disgwylir i bob cynnig datblygu hybu dyluniad o ansawdd uchel sy'n atgyfnerthu cymeriad lleol ac yn parchu ac yn gwella rhinweddau diwylliannol a hanesyddol ardal y cynllun.

Mae'r polisi hwn yn diogelu amgylchedd hanesyddol Powys fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth, PCC a TAN 24: Yr Amgylchedd Hanesyddol. Mae'r amgylchedd hanesyddol yn adnodd cyfyngedig na ellir ei adnewyddu ac yn un a rennir, ac mae'n rhan hollbwysig ac annatod o hunaniaeth hanesyddol a diwylliannol Powys. Gall dealltwriaeth o arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol Powys ddarparu cyd-destun ar gyfer rheoli newid.

Ar hyn o bryd, mae 3,938 o Adeiladau Rhestredig yn ardal y Cynllun a ddynodir gan Cadw ar ran Llywodraeth Cymru. Mae polisi cynllunio cenedlaethol yn ceisio gwarchod cymeriad adeiladau hanesyddol a rheoli newid er mwyn sicrhau y caiff eu diddordeb pensaernïol a hanesyddol arbennig ei gadw.

Mae 55 Ardal Gadwraeth yn ardal y Cynllun ar hyn o bryd. Mae polisi cynllunio cenedlaethol yn ceisio diogelu neu wella cymeriad neu olwg Ardaloedd Cadwraeth, gan helpu ar yr un pryd i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn fywiog ac yn ffyniannus.

Ar hyn o bryd, mae 10 Tirwedd Hanesyddol Cofrestredig yn ardal y Cynllun, neu'n rhannol yn ardal y Cynllun. Mae polisi cenedlaethol yn ceisio diogelu ardaloedd sydd ar y Gofrestr o Dirweddau Hanesyddol yng Nghymru.

Mae 37 o Barciau a Gerddi Cofrestredig yn ardal y Cynllun ar hyn o bryd. Mae polisi cynllunio cenedlaethol yn ceisio cadw diddordeb arbennig y safleoedd hynny sydd ar y Gofrestr o Barciau a Gerddi Hanesyddol.

Ar hyn o bryd, mae 723 o Henebion Cofrestredig yn ardal y Cynllun ynghyd â gweddillion archeolegol eraill nad ydynt wedi eu dynodi. Mae Polisi Cynllunio Cenedlaethol yn ceisio cadw gweddillion archeolegol, er eu mwyn eu hunain ac oherwydd y rôl y maent yn ei chwarae o ran addysg, hamdden a'r economi.

Mae Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys yn rheoli ac yn diweddaru'r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol statudol ar gyfer ardal y Cynllun ar ran Gweinidogion Cymru. Mae canllawiau statudol cenedlaethol yn ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddio'r cofnodion hyn fel ffynhonnell allweddol o wybodaeth wrth wneud penderfyniadau cynllunio sy'n effeithio ar yr amgylchedd hanesyddol. Dylid gofyn i Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys am gyngor ar eu defnyddio at ddiben gwneud penderfyniadau.

Mae'n ofynnol bod ceisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig a chydsyniad ardal gadwraeth yn dod gyda Datganiad o'r Effaith ar Dreftadaeth, er mwyn asesu effaith gwaith ar arwyddocâd yr adeilad neu'r ardal.

Bydd Canllawiau Cynllunio Atodol ar yr Amgylchedd Hanesyddol, Archaeoleg ac Ardaloedd Cadwraeth yn cael eu paratoi ar ôl mabwysiadu'r CDLl Newydd. Hefyd, cyhoeddir canllawiau arferion gorau gan Cadw ar gyfer gwahanol fathau o asedau hanesyddol, gan gynnwys canllawiau ar ynni adnewyddadwy ac adeiladau hanesyddol.

10.8 Diogelu Adnoddau Strategol

Polisi Strategol SP22 - Diogelu Adnoddau Strategol

Er mwyn diogelu a gwarchod amrywiaeth eang o adnoddau defnydd tir strategol (nas cynhwysir fel arall yn SP19-Yr Amgylchedd Naturiol, SP20-Seilwaith Gwyrdd neu SP21-Yr Amgylchedd Adeiledig a Hanesyddol), rhaid i gynigion datblygu beidio â chael effaith andwyol annerbyniol ar yr Adnodd Strategol a'i weithrediad.

Bydd y polisi hwn yn berthnasol i'r adnoddau strategol canlynol a nodwyd ar gyfer Powys:

  1. Asedau Adloniant, gan gynnwys:
    1. Llwybrau Cenedlaethol.
    2. Rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus.
    3. Llwybrau Adloniant.
    4. Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.
  2. Adnoddau neu dderbynyddion adloniant a thwristiaeth awyr agored arwyddocaol eraill sy'n bwysig oherwydd y buddion amlswyddogaethol y maent yn eu darparu (megis economaidd, amgylcheddol, hamdden ac amwynder a gwerth i iechyd a llesiant corfforol/meddyliol).
  3. Tirweddau a chymeriad tirwedd, nodweddion daearegol, ac awyr dywyll ledled Powys ynghyd â thirweddau dynodedig yn ardal y Cynllun neu'n gyfagos iddi.
  4. Pontsenni-Ardal Hyfforddiant y Weinyddiaeth Amddiffyn.
  5. Y Tir Amaethyddol Gorau a Mwyaf Amlbwrpas (Gradd 1, 2 a 3a).
  6. Ardaloedd Adnoddau Mwynol.
  7. Seilwaith Strategol Arfaethedig gan gynnwys Llwybrau Cludo (os a phan gânt eu nodi) a Chyflogaeth neu Safleoedd eraill (os a phan gânt eu nodi) sy'n gysylltiedig â Bargen Twf Canolbarth Cymru ac a gefnogir ganddi.

Mae'r polisi hwn yn darparu diogelwch i amrywiaeth o adnoddau ac asedau strategol bwysig er mwyn sicrhau nad yw datblygiad amhriodol yn cael effaith andwyol annerbyniol arnynt, na'u gweithrediad, gan gynnwys eu defnydd a'r mwynhad ohonynt.

Dim ond cynigion datblygu na fydd yn cael effaith annerbyniol ar yr adnodd neu'r ased fydd yn cael eu caniatáu. Er enghraifft, efallai na fydd yn briodol caniatáu datblygiad yn agos at ardal hyfforddi'r Weinyddiaeth Amddiffyn pan fo angen i awyrennau sy'n hedfan yn isel weithredu a bod arfau milwrol yn cael eu defnyddio, oherwydd y gall datblygiadau o'r fath greu pwysau i gyfyngu ar weithgareddau y Weinyddiaeth Amddiffyn a'r defnydd o'i thir.

Dylid ystyried effeithiau cronnus posibl datblygiadau presennol ac arfaethedig yn ofalus oherwydd y gallai adnoddau ac asedau gynnig nifer o fuddion. Mae Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa, er enghraifft, yn cyfrannu asedau hanesyddol, adloniant, twristiaeth a gweledol/tirwedd, yn ogystal â'r ffaith bod Clawdd Offa ei hun a'i leoliad yn Heneb Gofrestredig o bwys cenedlaethol yn llawer o Bowys.

Yn ogystal â rhoi sylw i Barciau Cenedlaethol cyfagos a Thirweddau Cenedlaethol (Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol), dylai datblygiadau roi sylw i ddynodiadau eraill megis Awyr Dywyll a'r Gofrestr o Dirweddau Hanesyddol. Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi Asesiad Cymeriad Tirwedd i nodi sut y gellir darparu ar gyfer datblygiad mewn ardal cymeriad tirwedd.

10.9 Y Gymraeg a Diwylliant Cymru

Polisi Strategol SP23 - Y Gymraeg a Diwylliant Cymru

Rhaid i gynigion datblygu warchod a hybu'r Gymraeg a diwylliant Cymru ledled y Sir.

Yng nghadarnleoedd y Gymraeg a nodwyd, rhaid i ddarpariaeth datblygiadau preswyl a chyflogaeth, ynghyd â chyfleusterau eraill, fod yn gymesur ag anghenion cymunedau lleol.

Ni chaniateir cynigion datblygu sy'n cael effaith niweidiol ar egni y Gymraeg a diwylliant Cymru, nac effaith andwyol ar gyfleusterau cymdeithasol a chymunedol oni bai bod modd lliniaru'r effaith yn foddhaol.

Nododd Cyfrifiad 2021 wahaniaeth sylweddol yng nghanran y siaradwyr Cymraeg ledled Powys, yn amrywio o 54% o drigolion sy'n gallu siarad Cymraeg yn Ward Glantwymyn i 4% yn Ward yr Ystog. Mae'r Gymraeg yn rhan sylweddol o wead cymdeithasol cymunedau yng ngogledd-orllewin, gorllewin a de-orllewin Powys, ac mae'n darparu ymdeimlad cryf o le a hunaniaeth.

Yng Nghadarnleoedd y Gymraeg lle mae'r Gymraeg yn iaith bob dydd i'r gymuned, rhaid rheoli datblygiadau er mwyn sicrhau bod swyddi a chartrefi i alluogi'r iaith i aros yn ganolog i'r cymunedau hynny. Rhaid i'r datblygiadau fod o raddfa, math a chymeriad priodol fel eu bod yn diwallu anghenion y cymunedau hyn a dylent ddigwydd ar gyfradd y gellir eu derbyn a'u cymhathu heb niweidio cymeriad y gymuned.

Ffigur 12 - Cadarnleoedd y Gymraeg

Cadarnleoedd Cymraeg yn Ardal LPA Powys. Dangosir y rhain fel NW Powys, ardal fechan ar ffin Sir Gaerfyrddin ac ardal Ystradgynlais.

Mewn mannau eraill, dylid ystyried datblygiadau fel grym cadarnhaol sy'n annog addysg a seilwaith cymdeithasol, gweithgareddau cymunedol a sylfaen economaidd cadarn i gael eu creu i alluogi'r iaith i ddatblygu fel rhan naturiol a ffyniannus o gymunedau cynaliadwy.

Bydd polisïau ychwanegol yn cael eu cynnwys yn y Cynllun Adnau er mwyn nodi'r amgylchiadau pan fo angen mesurau lliniaru yn unol â sensitifrwydd y Gymraeg yn yr ardal lle y lleolir y datblygiad arfaethedig; a phan fo rhaid i Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg lywio ceisiadau cynllunio.

10.10 Cyfleusterau Cymdeithasol a Chymunedol

Polisi Strategol SP24 - Cyfleusterau Cymdeithasol a Chymunedol

Er mwyn cynnal a gwella ansawdd bywyd yr holl breswylwyr, bydd defnyddiau a/neu gyfleusterau cymdeithasol a chymunedol yn cael eu cadw neu eu gwella.

Rhaid i bob cynnig datblygu ar gyfer cyfleusterau cymdeithasol a chymunedol newydd, neu gyfleusterau cymdeithasol a chymunedol a amnewidir, ddangos bod pob ymgais resymol wedi eu gwneud i ystyried cydleoli â chyfleuster cymdeithasol a chymunedol arall cyn yr ystyrir cyfleuster annibynnol.

Er budd cymunedau cynaliadwy a chydlyniant cymdeithasol, ni chefnogir colli cyfleuster cymdeithasol a chymunedol yn llwyr, na'i gau, oni bai bod cyfiawnhad llawn dros wneud hynny.

Diffinnir cyfleusterau cymdeithasol a chymunedol fel cyfleusterau a ddefnyddir gan gymunedau lleol at ddibenion hamdden, cymdeithasol, iechyd, addysg a diwylliannol, ac maent yn cynnwys neuaddau a siopau pentref, ysgolion, meddygfeydd, canolfannau iechyd, tafarndai, addoldai, mynwentydd, canolfannau hamdden, rhandiroedd, mannau agored, ardaloedd tyfu cymunedol a llyfrgelloedd. Mae'r cyfleusterau hyn yn darparu gwasanaethau gwerthfawr, yn cynhyrchu cyflogaeth ac yn denu pobl i fyw mewn ardal. Gallant fod yn eiddo i gyrff cyhoeddus, unigolion preifat neu grwpiau cymunedol.

Mae'r Cyngor yn cefnogi'r gwaith o ddiogelu a gwella cyfleusterau cymdeithasol a chymunedol sy'n cyfrannu at ddiwallu anghenion trigolion mewn trefi, pentrefi a chymunedau gwledig. Mae darparu amrywiaeth o gyfleusterau cymunedol sydd mor hygyrch i gynifer o bobl â phosibl yn hanfodol wrth ddatblygu cymunedau cynaliadwy, cryf a chynhwysol.

Dylai cyfleusterau newydd gael eu lleoli lle gall defnyddwyr gerdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn rhwydd i gael gafael arnynt.

Mae cyfleusterau adloniant yn cynnwys chwaraeon ffurfiol, gweithgareddau adloniant a hamdden megis meysydd gemau tîm, cyfleusterau chwarae i blant, parciau cyhoeddus a mannau adloniant eraill lle gall gweithgareddau anffurfiol megis cerdded ddigwydd. Darperir rhagor o fanylion am fannau o'r fath drwy'r Asesiad Mannau Agored.

Bydd y Cynllun Adnau yn cynnwys polisi ychwanegol ar golli cyfleusterau cymdeithasol neu gymunedol. Bydd hyn yn cynnwys manylion am bryd y mae'n rhaid cynnal cyfnod o farchnata ac ymgynghori â'r gymuned, ynghyd ag ymchwilio i ddefnyddiau cymunedol eraill neu bryniant cymunedol i gynnal y cyfleuster, cyn y gellir cyfiawnhau defnydd arall.

10.11 Cynhyrchu Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel

Polisi Strategol SP25 - Cynhyrchu Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel

Anogir cynigion datblygu adnewyddadwy a charbon isel, o bob technoleg ac ar bob graddfa, mewn lleoliadau priodol pan ei bod yn bosibl gwneud yr hyn a ganlyn:

  • Dangos na fydd unrhyw effeithiau andwyol annerbyniol ar safleoedd dynodedig statudol ac anstatudol rhyngwladol neu genedlaethol, rhanbarthol neu leol o ran cadwraeth natur (a'r nodweddion y'u dynodir ar eu cyfer), cynefinoedd a rhywogaethau a ddiogelir.
  • Dangos na fydd unrhyw effeithiau andwyol annerbyniol ar y dirwedd gyfagos (gan gynnwys tirweddau dynodedig), priddoedd a mawn sy'n fras o ran carbon, dŵr daear, yr amgylchedd hanesyddol gan gynnwys asedau treftadaeth a ddiogelir yn statudol, cymunedau lleol ac anheddau unigol (megis llygredd sŵn ac aer).
  • Dangos na fydd unrhyw effeithiau unigol na chronnus annerbyniol eraill yn codi, gan gynnwys gyda chynlluniau ynni adnewyddadwy presennol a chynlluniau ynni adnewyddadwy y ceir cydsyniad ar eu cyfer.
  • Disgrifio, drwy Ddatganiad Cynllunio, fanteision net y cynllun (cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol, diwylliannol) gan gynnwys y manteision i gymunedau lleol.
  • Dangos bod effeithiau tirwedd a gweledol yn cael eu lleihau gymaint â phosibl. Dylai dyluniadau a microleoli fod yn seiliedig ar ddealltwriaeth glir o gyd-destun y safle, gan gynnwys agosrwydd a sensitifrwydd cartrefi cyfagos a derbynyddion adloniant/twristiaeth.
  • Tystiolaeth, pan fo hynny'n berthnasol, y gall y cynnig hwyluso cysylltiad â'r rhwydwaith grid a sut mae unrhyw anghenion am seilwaith grid newydd neu wedi ei atgyfnerthu yn cael sylw.
  • Dangos nad oes unrhyw effeithiau andwyol annerbyniol o ran cysgodion symudol, sŵn, golau a adlewyrchir, ansawdd aer nac aflonyddwch electromagnetig.
  • Dangos nad oes unrhyw effeithiau annerbyniol ar weithrediadau ehangach cyfleusterau amddiffyn (gan gynnwys hedfan a radar) nac Ardal Hyfforddi Tactegol Hedfan yn Isel Canolbarth Cymru.
  • Tystiolaeth bod darpariaethau derbyniol yn ymwneud â datgomisiynu'r datblygiad ar ddiwedd ei oes, gan gynnwys cael gwared â'r seilwaith ac adfer yn effeithiol.

Ni ddylai cynigion am ddatblygiadau eraill mewn Ardal a Aseswyd Ymlaen Llaw ar gyfer Ynni Gwynt a nodir yn Cymru'r Dyfodol niweidio'r gallu i gyflwyno datblygiadau gwynt ar raddfa fawr (10MW neu fwy). Gwrthodir datblygiadau a allai niweidio datblygiadau gwynt ar raddfa fawr yn y dyfodol yn yr ardaloedd hyn.

Mae Polisïau 17 a 18 o Cymru'r Dyfodol yn darparu'r polisïau cynllunio cenedlaethol ar gyfer datblygu Ynni Adnewyddadwy. Mae Polisi 17: Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel a Seilwaith Cysylltiedig yn nodi Ardaloedd a Aseswyd Ymlaen Llaw ar gyfer datblygiadau gwynt ar y tir ar raddfa fawr. Noda Polisi 18, y tu allan i'r ardaloedd hyn, na ddylai cynigion ynni adnewyddadwy sy'n gymwys fel Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol gael effaith andwyol annerbyniol ar y dirwedd gyfagos. Mae Polisi 17 hefyd yn cefnogi'r broses o atgyfnerthu'r seilwaith grid cysylltiedig sy'n ymwneud â throsglwyddo a dosbarthu ynni.

Mae Asesiad Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel yn cael ei baratoi ar gyfer y CDLl Newydd. Dengys y canlyniadau cychwynnol bosibilrwydd o gyflawni 232MW ychwanegol o dechnolegau ynni adnewyddadwy a charbon isel â'r technolegau mwyaf cyffredin yn ystod cyfnod y Cynllun, gan gynnwys prosiectau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol, fel y dangosir yn Nhabl 10.

Tabl 10. Ynni adnewyddadwy a charbon isel ychwanegol y mae posibilrwydd o'i gynhyrchu yn 2022–2037

Technoleg

Capasiti Gosodedig Presennol (MW)

Capasiti Gosodedig newydd posibl yn ystod Cyfnod y Cynllun (MW)

Gwynt ar y Tir

298.4

140

Solar ffotofoltäig ar y llawr

35.1

65

Ynni adnewyddadwy sydd wedi ei integreiddio i'r adeilad (ffotofoltäig ar y to, ac ati)

19.2

27

Cyfanswm

352.7

232

Hefyd, mae'r Asesiad Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel yn cydnabod y gallai pympiau gwres a osodir mewn adeiladau domestig ac annomestig newydd gyfrannu capasiti gosodedig ychwanegol o 39.5MW o dechnoleg carbon isel. Bydd technolegau eraill megis Gwres a Phŵer Cyfunedig, hydrodrydanol, gwresogi ardal a threulio anaerobig yn chwarae rhan hefyd wrth gyfrannu at gynhyrchu ynni carbon isel, ond ystyrir y twf posibl yn fwy cyfyngedig.

Ar gyfer pob cynnig ynni adnewyddadwy a seilwaith cysylltiedig, gwrthwynebir cynigion sy'n effeithio'n annerbyniol ar safleoedd dynodedig. Yn ogystal â hynny, gofelir wrth asesu effeithiau ar gynefinoedd nad ydynt wedi eu dynodi ond sy'n brin, asedau treftadaeth ac adloniant/twristiaeth gan gynnwys eu lleoliadau, ac ardaloedd lle mae ansawdd y dirwedd yn uchel. Ni chefnogir cynigion sy'n effeithio'n annerbyniol ar ddefnyddiau tir eraill sydd o bwys strategol, megis gweithrediad a swyddogaeth ardaloedd hyfforddi milwrol. Dylid osgoi ardaloedd sy'n cynnig cyfleoedd i atafaelu carbon, megis mawn a choetir hynafol.

Rhaid i bob cynnig ynni adnewyddadwy a seilwaith cysylltiedig, megis llinellau dosbarthu neu gyfleusterau storio ynni, fynd i'r afael â materion effeithiau cronnus a pharchu bodolaeth ac amwynder datblygiadau preswyl a sensitif cyfagos eraill, gan gynnwys datblygiadau sydd wedi eu cymeradwyo ond heb eu hadeiladu.

Datblygir canllawiau ychwanegol yn y Cynllun Adnau i gefnogi'r gwaith o weithredu'r polisi hwn.

10.12 Cynllunio Mwynau a Gwastraff

Polisi Strategol SP26 - Rheoli Adnoddau Mwynau

Er mwyn hwyluso'r gwaith o reoli adnoddau mwynau yn gynaliadwy a darparu cyflenwad parhaus ar gyfer anghenion lleol a rhanbarthol, gwneir darpariaeth ar gyfer:

  • Gwarchod tywod a graean hysbys/posibl a enillir o'r tir ac adnoddau creigiau mathredig ar gyfer defnydd posibl yn y dyfodol (eu diogelu rhag datblygiad parhaol a fyddai'n eu sterileiddio yn ddiangen neu'n eu rhwystro rhag cael eu hechdynnu yn y dyfodol).
  • Cynnal banc tir digonol o gronfeydd agreg a ganiateir drwy gydol cyfnod y Cynllun.
  • Defnyddio parthau clustogi i leihau'r gwrthdaro rhwng datblygu mwynau a datblygiadau sensitif.
  • Sicrhau adferiad priodol a all gyflawni manteision amgylcheddol a chymunedol penodol.
  • Annog y defnydd effeithlon a phriodol o fwynau o ansawdd uchel a manteisio gymaint â phosibl ar y posibilrwydd o ddefnyddio agregau eilaidd ac agregau sydd wedi eu hailgylchu fel dewis arall yn lle adnoddau a enillir yn uniongyrchol o'r tir.

Mae gan Bowys amrywiaeth eang o adnoddau mwynau sy'n cael eu gwarchod i'w hatal rhag cael eu sterileiddio'n ddiangen yn unol â'r canllawiau cenedlaethol.

Mae Ail Adolygiad Datganiad Technegol Rhanbarthol De Cymru (2020) yn nodi'r cyfraniad y dylai pob awdurdod lleol cyfansoddol (Awdurdod Cynllunio Mwynau) ei wneud tuag at fodloni'r galw rhanbarthol am agregau (craig galed a thywod a graean).

Mae'r Datganiad Technegol Rhanbarthol yn cadarnhau nad oes gofyniad i Bowys gyfrannu at y cyflenwad tywod a graean rhanbarthol a echdynnir o'r tir. Mae'r Datganiad Technegol Rhanbarthol a'r monitro parhaus wedi cadarnhau bod cronfeydd wrth gefn helaeth o hyd yn y chwareli creigiau mathredig sydd wedi eu cydsynio ym Mhowys a bod ffigurau'r banc tir ar gyfer y cyflenwad creigiau mathredig yn fwy nag isafswm y gofynion yn Nodyn cyngor technegol mwynau (MTAN) 1: Agregau. O ganlyniad, nid oes angen dyrannu unrhyw safleoedd newydd ar gyfer datblygu mwynau.

Mae parthau clustogi yn helpu i leihau gwrthdaro rhwng datblygiad sensitif a gweithrediadau chwarela. Mae parthau clustogi yn amrywio o ran rhychwant oherwydd agosrwydd derbynyddion sensitif presennol ac maent yn dibynnu ar nifer o ffactorau gan gynnwys maint, math a lleoliad y gwaith chwarela, topograffeg a'r lefelau sŵn a llwch presennol ac a rhagwelir, a dirgryniad o weithrediadau ffrwydro.

Polisi Strategol SP27 - Rheoli Gwastraff

Er mwyn hwyluso'r broses o reoli gwastraff yn gynaliadwy, gwneir darpariaeth ar gyfer:

  • Sicrhau bod cynigion yn cydymffurfio ag egwyddorion yr hierarchaeth wastraff sy'n cefnogi'r rhai sy'n symud gwastraff i fyny'r hierarchaeth.
  • Cefnogi rhwydwaith integredig a digonol o gyfleusterau rheoli gwastraff ar dir sy'n briodol ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff.
  • Cefnogi'r economi gylchol drwy annog y gwastraff a gynhyrchir i gael ei gadw cyn ised â phosibl, a'r defnydd o ddeunyddiau sydd wedi eu hailddefnyddio a'u hailgylchu yn ystod camau dylunio, adeiladu a dymchwel y datblygiad.
  • Sicrhau y gwneir darpariaeth i reoli, didoli, storio a chasglu gwastraff yn gynaliadwy ym mhob datblygiad newydd, gan gynnwys sicrhau cyfleoedd i leihau'r gwastraff a gynhyrchir.

Mae'r system rheoli gwastraff a chynllunio gwastraff yn parhau i ddatblygu ac, yn unol â dogfen strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff a PCC, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol ddatblygu dull cynaliadwy o reoli gwastraff, gan gynnwys cymorth ar gyfer gweithrediadau gwastraff, sy'n symud y gwaith o reoli gwastraff i fyny'r hierarchaeth wastraff. Bydd angen cyfleusterau newydd er mwyn cefnogi'r broses o leihau gwastraff ac ailgylchu, a chyflawni'r targedau a bennwyd ar gyfer y rhain.

Ffigur 13 - Yr Hierarchaeth Wastraff

Hierarchaeth Gwastraff: (dull a ffefrir i'r lleiaf dewisol) Atal ac Ailddefnyddio Paratoi ar gyfer Ailddefnyddio Ailgylchu Gwaith Adfer Arall Taflu

Mae'r dull rheoli gwastraff cynaliadwy yn cynnwys nodi tir sy'n briodol ar gyfer hwyluso rhwydwaith integredig o gyfleusterau gwastraff. Gyda datblygiadau technolegol a newidiadau mewn deddfwriaeth, polisi ac arferion, mae gan gyfleusterau rheoli gwastraff sy'n rhan o'r adeilad ymddangosiad allanol a dulliau mewnol o reoli gwastraff nad ydynt yn wahanol i brosesau diwydiannol eraill. Felly, mae addasrwydd safleoedd diwydiannol Dosbarth B2 wedi dod yn dderbyniol mewn egwyddor.

Wrth baratoi'r holl gynigion datblygu, dylid ystyried y goblygiadau o ran gwastraff. Dylai lleoliad a graddfa y datblygiadau ystyried storio gwastraff, a chapasiti y cyfleusterau rheoli gwastraff sydd ar gael yn yr ardal. Ni ddylai cynigion datblygu arwain at gynhyrchu teithiau diangen i waredu gwastraff.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig