Y Strategaeth a Ffefrir
11. Adolygiad o Bolisïau Rheoli Datblygu
I ddechrau, mae'r adran hon yn darparu adolygiad o'r Polisïau Rheoli Datblygu yn CDLl Mabwysiedig Powys (2011–2026) ac yn argymell sut y dylid dwyn y polisïau ymlaen i'r CDLl Newydd. Yn dilyn hyn, cynigiwyd meysydd polisi ychwanegol a newydd i'w cynnwys yn y CDLl Newydd Adnau.
Parhau heb lawer o newidiadau i eiriad polisïau |
Diweddariadau manylach i bolisïau sydd eu hangen cyn cael eu dwyn ymlaen |
Mae angen adolygu polisïau |
Polisïau nad ydynt yn cael eu dwyn ymlaen |
11.1 Polisïau Rheoli Datblygu
Cyfeirnod Polisi |
Teitl |
Trosolwg |
Argymhelliad |
DM1 |
Rhwymedigaethau Cynllunio |
Mae'r polisi hwn yn gweithio'n effeithiol. |
Dwyn ymlaen gyda chyn lleied o newidiadau â phosibl. |
DM2 |
Yr Amgylchedd Naturiol |
Ailystyried y polisi er mwyn adlewyrchu'r newid o Safleoedd Ewropeaidd i'r Rhwydwaith Safleoedd Cenedlaethol, y newidiadau i'r amcanion deddfwriaethol a pholisi cenedlaethol, ac yng nghyd-destun yr Asesiad Seilwaith Gwyrdd. |
Diweddaru'r polisi er mwyn adlewyrchu'r newid o Safleoedd Ewropeaidd i'r Rhwydwaith Safleoedd Cenedlaethol, y newidiadau i'r amcanion deddfwriaethol a pholisi cenedlaethol, ac yng nghyd-destun newidiadau Polisi Cynllunio Cymru (Mantais Net i Fioamrywiaeth, dull Fesul Cam, Asesiad Seilwaith Gwyrdd, ac ati). |
DM3 |
Mannau Agored Cyhoeddus |
Ailystyried y polisi â chyfraniad Rheoli Datblygu er mwyn darparu eglurder, ynghyd â gofynion y Seilwaith Gwyrdd. |
Mae angen diweddariad i ddarparu eglurder ynghylch nodi a gweithredu polisi, ynghyd â gofynion Seilwaith Gwyrdd. |
DM4 |
Tirwedd |
Adolygu'r polisi er mwyn adlewyrchu tystiolaeth yn yr Asesiad Cymeriad Tirwedd Lleol a pholisïau/canllawiau cynllunio cenedlaethol. |
Diweddaru'r polisi i adlewyrchu tystiolaeth Asesiad Cymeriad Tirwedd Lleol ynghyd â'r polisi/canllawiau cynllunio cenedlaethol diweddaraf. |
DM5 |
Datblygiad a Pherygl o Lifogydd |
Ailystyried y polisi yng ngoleuni TAN 15 newydd a'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio. |
Diweddaru'r polisi er mwyn ystyried TAN 15 newydd a'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio sydd ar ddod. |
DM6 |
Mesurau Atal Llifogydd a Draenio Tir |
Ailystyried y polisi yng ngoleuni TAN 15 newydd a'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio, ynghyd â gofynion Systemau Draenio Cynaliadwy. |
Diweddaru'r polisi er mwyn ystyried TAN 15 newydd a'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio sydd ar ddod, ynghyd â gofynion Systemau Draenio Cynaliadwy. |
DM7 |
Awyr Dywyll a Goleuadau Allanol |
Defnyddir y polisi hwn yn bennaf i gefnogi amodau cynllunio sy'n ymwneud â chynlluniau goleuo allanol sydd â'r nod o osgoi effaith ar fywyd gwyllt nosol, yn hytrach nag asesu'r effaith ar lygredd golau a gwelededd awyr y nos. Ailystyried y polisi yng ngoleuni polisïau/canllawiau cynllunio cenedlaethol a thystiolaeth gysylltiedig. |
Ailystyried y polisi yng ngoleuni polisïau/canllawiau cynllunio cenedlaethol a thystiolaeth gysylltiedig. |
DM8 |
Diogelu Mwynau |
Mae'r polisi hwn yn cefnogi gofynion mewn polisïau/canllawiau cynllunio cenedlaethol, ond nid yw'n cael ei ddefnyddio'n gyson. Bydd rhagor o hyfforddiant a mapio cyfyngiadau swyddogion yn helpu, ynghyd â geiriad diwygiedig |
Dwyn ymlaen gyda newidiadau bach ychwanegol i hyfforddiant swyddogion a chyfyngiadau ar fapio a ddarperir. |
DM9 |
Gwaith Mwynau Presennol |
Mae'r polisi hwn yn gweithio'n effeithiol, fodd bynnag, dylid ychwanegu geiriad ychwanegol er mwyn adlewyrchu polisïau a chanllawiau cenedlaethol diweddaredig. |
Diweddariad gyda diwygiadau i adlewyrchu newidiadau i bolisïau a chanllawiau cenedlaethol. |
DM10 |
Tir Llygredig ac Ansefydlog |
Mae'r polisi hwn yn gweithio'n effeithiol. |
Adolygu geiriad y polisi i adlewyrchu ystyriaethau sy'n ymwneud â nodweddion ac adnoddau cloddio glo a darparu eglurder am y gwaith arolygu sy'n ofynnol yn ystod y cam cyflwyno cais. |
DM11 |
Diogelu Cyfleusterau a Gwasanaethau Cymunedol |
Ailystyried y polisi er mwyn egluro sut i'w gymhwyso, a'i berthynas â pholisïau cysylltiedig eraill (e.e. polisïau R3 ac C1) a'r gofynion marchnata. |
Adolygu ac egluro cwmpas a geiriad y polisi, ac i ddarparu diffiniadau cliriach o gyfleusterau a gwasanaethau cymunedol. |
DM12 |
Datblygiadau mewn Cadarnleoedd y Gymraeg |
Ailystyried y polisi yng ngoleuni'r dystiolaeth ddiweddaraf, ochr yn ochr ag Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg y dylid ei gynnal yn rhan o Arfarniad o Gynaliadwyedd y CDLl. |
Diweddaru'r polisi i adlewyrchu'r Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg a'r dystiolaeth ddiweddaredig. |
DM13 |
Dyluniad ac Adnoddau |
Ailystyried y polisi a'r elfennau sydd ynddo yng ngoleuni polisïau/canllawiau cynllunio cenedlaethol, yn enwedig o ran cynaliadwyedd ac egwyddorion creu lleoedd. |
Adolygu'r polisi sydd ei angen, yn enwedig mewn cysylltiad ag egwyddorion cynaliadwyedd a chreu lleoedd. |
DM14 |
Rheoli Ansawdd Aer |
Mae'r polisi hwn yn gweithio'n effeithiol, fodd bynnag, dylid ychwanegu geiriad ychwanegol. |
Diweddaru'r polisi er mwyn ystyried y ddeddfwriaeth ddiweddaraf o ran egwyddorion dylunio cynaliadwy a chyngor ansawdd aer. |
DM15 |
Gwastraff Mewn Datblygiadau |
Ni chymhwysir y polisi hwn mor eang ag y bwriadwyd. Ymdrinnir â hyn drwy drafod â Rheoli Datblygu. |
Mae angen diweddariad i ddarparu eglurder ynghylch gweithredu polisi. |
DM16 |
Diogelu Safleoedd Cyflogaeth Presennol |
Mae'r polisi hwn yn gweithio'n effeithiol, fodd bynnag, caiff y geiriad ei adolygu i sicrhau eglurder a chysondeb â'r gyfres o Bolisïau Cyflogaeth. Gweler Polisi E4 hefyd. |
Adolygu geiriad y polisi er mwyn sicrhau eglurder a chysondeb â pholisïau Cyflogaeth, yn benodol, E4. |
11.2 Polisïau yn Seiliedig ar Bwnc
Cyfeirnod Polisi |
Teitl |
Trosolwg |
Argymhelliad |
E1 |
Cynigion Cyflogaeth ar Safleoedd a Ddyrannwyd ar gyfer Cyflogaeth |
Mae'r polisi hwn yn gweithio'n effeithiol. Bydd angen ei ailasesu yng ngoleuni unrhyw ddiwygiadau i'r Strategaeth Twf a'r Strategaeth Ofodol. Caiff y geiriad ei adolygu i sicrhau eglurder a chysondeb â'r gyfres o Bolisïau Cyflogaeth. |
Ailasesu'r polisi yng ngoleuni diwygiadau i'r Strategaeth Twf a Gofodol ac adolygu'r geiriad er mwyn sicrhau eglurder a chysondeb â pholisïau Cyflogaeth. |
E2 |
Cynigion Cyflogaeth ar Safleoedd Heb eu Dyrannu ar gyfer Cyflogaeth |
Mae'r polisi hwn yn gweithio'n effeithiol. Bydd angen ei ailasesu yng ngoleuni unrhyw ddiwygiadau i'r Strategaeth Twf a'r Strategaeth Ofodol. Caiff y geiriad ei adolygu i sicrhau eglurder a chysondeb â'r gyfres o Bolisïau Cyflogaeth. |
Ailasesu'r polisi yng ngoleuni diwygiadau i'r Strategaeth Twf a Gofodol ac adolygu'r geiriad er mwyn sicrhau eglurder a chysondeb â pholisïau Cyflogaeth. |
E3 |
Cynigion Cyflogaeth ar Safleoedd Cyflogaeth Defnydd Cymysg a Ddyrannwyd |
Mae'r polisi hwn yn gweithio'n effeithiol. Bydd angen ei ailasesu yng ngoleuni unrhyw ddiwygiadau i'r Strategaeth Twf a'r Strategaeth Ofodol. Caiff y geiriad ei adolygu i sicrhau eglurder a chysondeb â'r gyfres o Bolisïau Cyflogaeth. |
Ailasesu'r polisi yng ngoleuni diwygiadau i'r Strategaeth Twf a Gofodol ac adolygu'r geiriad er mwyn sicrhau eglurder a chysondeb â pholisïau Cyflogaeth. |
E4 |
Safleoedd Cyflogaeth a Ddiogelir |
Mae'r polisi hwn yn gweithio'n effeithiol. Bydd yn cael ei ddiweddaru er mwyn sicrhau bod y rhestr o safleoedd a ddiogelir yn gyfredol ac yn gywir a bod y polisi'n parhau i gydymffurfio â pholisi cenedlaethol a thystiolaeth ddiweddaredig. Gweler Polisi DM16 hefyd. |
Diweddaru'r polisi er mwyn sicrhau bod y rhestr o safleoedd a warchodir yn gyfredol ac yn gywir a bod y polisi'n parhau i gydymffurfio â pholisi cenedlaethol. Gweler Polisi DM16 hefyd. |
E5 |
Parc Iechyd Bronllys |
Ailystyried y polisi sydd ei angen yng ngoleuni'r materion a nodwyd wrth ei ddefnyddio, yn ogystal â'r angen i adolygu ei berthnasedd wrth symud ymlaen. |
Ailystyried a yw polisi'n briodol neu a oes angen dull gweithredu amgen. |
E6 |
Arallgyfeirio ar y Fferm |
Ailystyried y polisi er mwyn ystyried arallgyfeirio ym maes amaethyddiaeth ochr yn ochr ag arallgyfeirio oddi wrth amaethyddiaeth, ochr yn ochr ag unrhyw newidiadau mewn polisïau cenedlaethol. |
Ailystyried y polisi o'i gymharu â pholisïau cenedlaethol ac ystyried gwella eglurder geiriad y polisi, yn enwedig o ran amrywio ym maes amaethyddiaeth ochr yn ochr ag arallgyfeirio oddi wrth amaethyddiaeth. |
E7 |
Gweithio Gartref |
Disgwylir i'r polisi barhau i fod yn gefnogol ac yn hyblyg o ran gweithio gartref. Bydd y geiriad yn cael ei adolygu a'i ddiweddaru yn ôl yr angen, gan gynnwys cyfeirio at y newid mewn arferion gweithio yn sgil COVID-19. |
Dwyn ymlaen gyda mân newidiadau. |
T1 |
Teithio, Traffig a Seilwaith Trafnidiaeth |
Ailystyried y polisi yn dilyn pwyslais ar deithio cynaliadwy yn PCC a Cymru'r Dyfodol. |
Ailystyried y polisi yn dilyn pwyslais ar deithio cynaliadwy yn PCC a Cymru'r Dyfodol. |
T2 |
Gwarchod Seilwaith Cludiant Nas Defnyddir |
Ni ddefnyddiwyd y polisi. Dylid gwneud gwaith ymchwil i nodi'r rheilffyrdd nas defnyddir a'r seidins rheilffordd a seilwaith trafnidiaeth arall nas defnyddir neu segur, yn ardal y Cynllun, yn rhan o'r broses adolygu. Bydd yr ymchwil hon yn galluogi dealltwriaeth o'r dull polisi i'w ddatblygu a gallai arwain at nodi cyfleoedd Seilwaith Gwyrdd. |
Ailystyried a yw polisi'n briodol neu a oes angen dull gweithredu amgen. Mae angen ymchwil i nodi'r rheilffyrdd nas defnyddir a seidins rheilffyrdd a seilwaith trafnidiaeth arall nas defnyddir neu segur i alluogi dealltwriaeth o'r dull polisi i'w gymryd wrth symud ymlaen a gallai arwain at nodi cyfleoedd Seilwaith Gwyrdd. |
T3 |
Ffordd Osgoi'r Drenewydd |
Nid oes angen y polisi mwyach. Mae Ffordd Osgoi'r Drenewydd wedi ei hadeiladu ac yn weithredol. |
Dylid dileu'r polisi. |
H1 |
Cynigion Datblygu Tai |
Adolygu'r polisi i adlewyrchu yr ailystyriaeth a roddir i'r strategaeth ofodol a'r strategaeth twf. |
Diweddaru'r polisi i adlewyrchu diwygiadau i'r Strategaeth Twf a Gofodol. |
H2 |
Safleoedd Tai |
Adolygu'r polisi i adlewyrchu yr ailystyriaeth a roddir i'r strategaeth ofodol a'r strategaeth twf. |
Diweddaru'r polisi i adlewyrchu diwygiadau i'r Strategaeth Twf a Gofodol. |
H3 |
Cyflawni Tai |
Mae'r polisi hwn yn gweithio'n effeithiol; fodd bynnag, caiff ei ailystyried er mwyn adlewyrchu unrhyw newidiadau yn y dull o gyflawni tai a mynd i'r afael â'r angen am dai. |
Ailystyried y polisi er mwyn adlewyrchu unrhyw newidiadau yn y dull o ddarparu tai a mynd i'r afael â'r angen am dai. |
H4 |
Dwysedd Tai |
Ailystyried y polisi yng ngoleuni polisïau/canllawiau cynllunio cenedlaethol ac ymchwil ychwanegol i lywio'r dull o ymdrin â dwysedd tai ar draws haenau aneddiadau a mathau o ddatblygiad. |
Ailystyried y polisi yng ngoleuni polisïau/canllawiau cynllunio cenedlaethol ac ymgymryd ag ymchwil ychwanegol i lywio'r dull o ymdrin â dwysedd tai ar draws haenau aneddiadau a mathau o ddatblygiad. |
H5 |
Cyfraniadau at Dai Fforddiadwy |
Ailystyried y polisi, gan gynnwys targedau sy'n benodol i safleoedd, yng ngoleuni tystiolaeth ddiweddaredig o'r angen am dai a hyfywedd, ynghyd â pholisïau/canllawiau cynllunio cenedlaethol. |
Ailystyried y polisi, gan gynnwys targedau sy'n benodol i safleoedd er mwyn adlewyrchu tystiolaeth Asesiad Hyfywedd Lefel Uchel ynghyd â'r polisi/canllawiau cynllunio cenedlaethol diweddaraf. |
H6 |
Tai Fforddiadwy ar Safleoedd Eithriedig a Alluogwyd |
Ailystyried y polisi yng ngoleuni polisïau/canllawiau cynllunio cenedlaethol. Bydd angen adlewyrchu diwygiadau i'r strategaeth, rhaglenni Landlord Cymdeithasol Cofrestredig/Awdurdod Tai Strategol, a thystiolaeth o fforddiadwyedd ac angen lleol yn y dull o ymdrin â safleoedd eithriedig. |
Ailystyried y polisi yng ngoleuni polisïau/canllawiau cynllunio cenedlaethol. Bydd angen adlewyrchu diwygiadau i'r strategaeth, rhaglenni Landlord Cymdeithasol Cofrestredig/Awdurdod Tai Strategol, a thystiolaeth o fforddiadwyedd ac angen lleol yn y dull o ymdrin â safleoedd eithriedig. |
H7 |
Datblygiadau gan Ddeiliaid Tai |
Yn gyffredinol, ystyrir bod y polisi'n gweithio'n effeithiol, yn enwedig o ran datblygiadau atodol. Mae'n bosibl y bydd angen geiriad ychwanegol i adlewyrchu ystyriaethau ychwanegol. |
Ystyried geiriad ychwanegol i ddarparu eglurder ar estyniadau ac anecsau, h.y. lwfansau ar raddfa gyffredinol. |
H8 |
Adnewyddu Anheddau Gwag |
Defnyddir y polisi hwn yn effeithiol ochr yn ochr â chanllawiau TAN 24 i sicrhau bod anheddau gwag yn cael eu hadnewyddu'n sympathetig a bod asesiadau archeolegol neu adeiladau yn cael eu cofnodi. |
Dwyn ymlaen gyda mân newidiadau. |
H9 |
Anheddau Newydd |
Nodwyd materion wrth ddehongli'r polisi hwn, yn enwedig o ran nodi ac asesu adeiladau o gymeriad cynhenid lleol. Mae'n bosibl y bydd angen rhagor o eglurhad ynghylch polisïau i adlewyrchu gofynion asesu archeolegol. |
Diweddaru'r polisi er mwyn darparu eglurder i adlewyrchu gofynion asesu archeolegol. |
H10 |
Safleoedd a Charafanau Sipsiwn a Theithwyr |
Disgwylir i'r polisi barhau i fod yn gefnogol ac yn hyblyg o ran darparu safleoedd pan fo hynny'n angenrheidiol. Bydd y geiriad yn cael ei adolygu i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn gyfredol ac yn berthnasol i'r gofynion polisi cyfredol a'r anghenion sy'n codi. |
Dwyn ymlaen gyda mân newidiadau. |
H11 |
Darpariaeth Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr |
Bydd y polisi presennol yn dyddio wrth i anghenion gael eu diwallu. Bydd angen polisi newydd i adlewyrchu tystiolaeth ddiweddaredig. |
Mae angen polisi newydd i adlewyrchu'r Asesiad diwygiedig o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr. |
R1 |
Datblygiad Adwerthu Newydd |
Adolygu'r polisi yn unol â chanfyddiadau'r Astudiaeth Adwerthu diweddaredig. |
Diweddaru'r polisi i adlewyrchu diwygiadau i'r Strategaeth Ofodol a'r Astudiaeth Adwerthu. |
R2 |
Dyraniadau Adwerthu |
Adolygu'r Polisi yn dilyn canfyddiadau o'r Adroddiadau Monitro Blynyddol. |
Dylid dileu'r Polisi yn sgil argymhellion o'r dystiolaeth Adwerthu nad oes gofyniad am ddyraniadau adwerthu yn y CDLl Newydd. |
R3 |
Datblygiadau Mewn Canol Trefi |
Adolygu'r Polisi i egluro ei ddefnydd, a'i berthynas â pholisïau cysylltiedig eraill, yng ngoleuni adferiad yn sgil COVID-19 hefyd a'r effaith ar y stryd fawr. Bydd yr hierarchaeth Adwerthu a'r ffryntiadau siopa yn cael eu hadolygu yn unol â'r strategaeth gofodol diwygiedig a'r dystiolaeth ddiweddaredig. |
Adolygu'r polisi i ddarparu eglurder ar ei berthynas â pholisïau cysylltiedig eraill, sef DM11 ac C1. |
R4 |
Siopau a Gwasanaethau Cymdogaeth a Phentref |
Ailystyried y polisi fel ei fod yn parhau i fod yn gefnogol, yn gyfredol ac yn berthnasol i greu lleoedd cynaliadwy yn unol â'r broses o ailystyried y strategaeth twf a'r strategaeth ofodol. Dylid ymchwilio ymhellach i Gysylltiadau â Pholisïau C1 a DM11, er mwyn sicrhau dull cydlynol o gefnogi cymunedau cynaliadwy. |
Adolygu'r polisi i ddarparu eglurder ar ei berthynas â pholisïau cysylltiedig eraill, sef DM11 ac C1. |
TD1 |
Datblygu Twristiaeth |
Adolygu'r Polisi yn dilyn canfyddiadau o'r Adroddiadau Monitro Blynyddol. Mae angen diwygio'r geiriad hefyd er mwyn darparu eglurder. |
Adolygu geiriad y polisi er mwyn darparu eglurder. Ystyried polisïau newydd er mwyn rhoi eglurhad ar lety priodol i ymwelwyr. |
TD2 |
Defnyddiau Eraill ar gyfer Datblygiadau Twristiaeth presennol |
Mae'r polisi hwn yn gweithio'n effeithiol, fodd bynnag, dylid ystyried a oes angen egluro ystyr ardal wledig. |
Adolygu geiriad y polisi er mwyn darparu eglurder. |
TD3 |
Camlas Trefaldwyn a Datblygiadau Cysylltiedig |
Dylid ailystyried y polisi o ystyried rôl Camlas Trefaldwyn ar draws sawl maes pwnc CDLl ac yng nghyd-destun y dynodiad Ardal Cadwraeth Arbennig, Seilwaith Gwyrdd a chreu lleoedd. |
Ailystyried y polisi ynghylch a ddylai fod yn rhan o'r fframwaith polisi ar gyfer twristiaeth neu a yw polisi ardal yn fwy priodol. |
W1 |
Lleoliad Datblygiadau Gwastraff |
Mae'r polisi hwn yn gweithio'n effeithiol. |
Dwyn ymlaen gyda chyn lleied o newidiadau â phosibl. |
W2 |
Cynigion Rheoli Gwastraff |
Mae'r polisi hwn yn gweithio'n effeithiol. |
Dwyn ymlaen gyda chyn lleied o newidiadau â phosibl. |
RE1 |
Ynni Adnewyddadwy |
Ailystyried y polisi yng ngoleuni cyhoeddiad Cymru'r Dyfodol a newidiadau i'r drefn gydsynio. |
Ailystyried polisi yng ngoleuni cyflwyniad Cymru'r Dyfodol a thystiolaeth. |
M1 |
Safleoedd Mwynau Presennol |
Mae'r polisi hwn yn gweithio'n effeithiol. Dylid asesu a diweddaru'r geiriad fel y bo'n briodol i adlewyrchu unrhyw dystiolaeth newydd. |
Dwyn ymlaen gyda mân newidiadau. |
M2 |
Safleoedd Mwynau Newydd |
Mae'r polisi hwn yn gweithio'n effeithiol. Dylid asesu a diweddaru'r geiriad fel y bo'n briodol i adlewyrchu unrhyw dystiolaeth newydd. |
Dwyn ymlaen gyda mân newidiadau. |
M3 |
Gweithfeydd Mwynau Dros Dro |
Ni chafwyd unrhyw geisiadau i brofi'r polisi hwn hyd yma. Mae'r polisi'n cyfeirio at bolisi cenedlaethol felly ni ddylai fod yn angenrheidiol ei ddiweddaru. |
Dwyn ymlaen gyda chyn lleied o newidiadau â phosibl. |
M4 |
Cynigion Mwynau |
Defnyddir y polisi hwn yn effeithiol. Dylid asesu a diweddaru'r geiriad fel y bo'n briodol i adlewyrchu unrhyw dystiolaeth neu newidiadau newydd mewn polisi cenedlaethol ac i adlewyrchu newidiadau i bolisïau cysylltiedig eraill yn y CDLl (e.e., tirwedd a bioamrywiaeth). |
Dwyn ymlaen gyda chyn lleied o newidiadau â phosibl. |
M5 |
Gwaith Adfer ac Ôl-ofal |
Mae'r polisi hwn yn gweithio'n effeithiol. Dylid asesu a diweddaru'r geiriad fel y bo'n briodol i adlewyrchu unrhyw dystiolaeth neu newidiadau newydd mewn polisi cenedlaethol. |
Dwyn ymlaen gyda mân newidiadau. |
C1 |
Cyfleusterau Cymunedol a Chyfleusterau Adloniant Dan Do |
Mae'r polisi hwn yn gweithio'n effeithiol, fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd angen egluro ei berthynas â Pholisi DM11. |
Adolygu ac egluro cwmpas a geiriad y polisi, ac i ddarparu diffiniadau cliriach o gyfleusterau a gwasanaethau cymunedol. |
MD1 |
Cynigion datblygu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn |
Ni ddefnyddiwyd y polisi. Ystyried a ddylid cynnwys y polisi yn y CDLl Newydd yn ei fformat presennol ac a oes angen unrhyw newidiadau. |
Ailystyried a yw polisi'n briodol neu a oes angen dull gweithredu amgen. |
11.3 Meysydd Polisi Newydd i'w Hystyried
Teitl |
Argymhelliad |
Unedau Da Byw Dwys |
Dylid ystyried hyn ymhellach. |
Diogelu Mawn |
Dylid ystyried hyn ymhellach. |
Diogelu'r Tir Amaethyddol Gorau a Mwyaf Amlbwrpas |
Dylid ystyried hyn ymhellach. |
Asesiadau o'r Effaith ar Dreftadaeth |
Dylid ystyried hyn ymhellach. |
Tai Arbenigol |
Dylid ystyried hyn ymhellach. |
Ail Gartrefi a llety gwyliau tymor byr |
Dylid ystyried hyn ymhellach. |
Llety Gwyliau |
Dylid ystyried hyn ymhellach. |
Carafán Deithio, Gwersylla a Llety Gwersylla Arall nad yw'n Barhaol |
Dylid ystyried hyn ymhellach. |
Safleoedd Carafanau Statig a Chabanau Gwyliau a Llety Gwersylla Parhaol Arall |
Dylid ystyried hyn ymhellach. |
Anheddau Mentrau Gwledig Garddwriaethol |
Dylid ystyried hyn ymhellach. |
Ailwampio Adeiladau Gwledig |
Dylid ystyried hyn ymhellach. |
Tir a Ddatblygwyd yn Flaenorol |
Dylid ystyried hyn ymhellach. |
Y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd |
Dylid ystyried hyn ymhellach. |
Ystyriaeth Ymhellach
Hoffem wybod beth yw eich safbwyntiau am yr effaith caiff y cynigion ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Pa effeithiau ydych chi’n meddwl fyddai yna?
Sut y gellid cynyddu effeithiau cadarnhaol, neu leihau effeithiau negyddol?