Drafft Ymgynghorol Methodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol

Daeth i ben ar 10 Hydref 2022
Os ydych chi’n cael trafferth defnyddio’r system, rhowch gynnig ar ein canllaw cymorth.

2. Egwyddorion Allweddol - Yr Alwad am Safleoedd Ymgeisiol

2.1 Cynigwyr Safleoedd a Defnyddiau Tir

2.1.1 Mae'r Alwad am Safleoedd Ymgeisiol yn caniatáu i bob parti (tirfeddianwyr, cynghorau cymuned, sefydliadau lleol ac ati) gyflwyno unrhyw safleoedd posibl i'w hystyried i'w cynnwys yn y CDLl Newydd. Yna bydd y rhain yn cael eu hasesu, a gwneir penderfyniad ynghylch a yw pob safle yn addas fel dyraniad yn y CDLl Newydd ar gyfer y defnydd arfaethedig, neu beidio.

2.1.2 Bydd Safleoedd Ymgeisiol yn chwarae rhan bwysig wrth lunio a gweithredu'r CDLl Newydd yn llwyddiannus, gan y bydd rhai ohonynt yn dod yn ddyraniadau sy'n sylfaenol i ddiwallu'r anghenion a nodir yn y Cynllun. Gwahoddir cyflwyno safleoedd ar gyfer tai, cyflogaeth, ac anghenion eraill, fel y nodir isod yn y rhestr o ddefnyddiau tir Safleoedd Ymgeisiol (nodwch nad yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr ac y bydd defnyddiau cymysg hefyd yn cael eu hystyried).

Defnyddiau Tir Safleoedd Ymgeisiol:

  • Tai'r Farchnad Agored
  • Tai Fforddiadwy
  • Tai Arbenigol (gan gynnwys ar gyfer pobl hŷn a rhai ag anableddau)
  • Cyflogaeth
  • Cyfleusterau Cymunedol
  • Twristiaeth
  • Seilwaith Gwyrdd / Mannau Agored
  • Gwastraff
  • Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol
  • Sipsiwn a Theithwyr
  • Manwerthu
  • Hamdden
  • Ynni Adnewyddadwy
  • Bioamrywiaeth
  • Seilwaith Trafnidiaeth
  • Mwynau

2.2 Cynaliadwyedd, Hyfywedd a Chyflawnadwyedd

2.2.1 Bydd Awdurdod Cynllunio Lleol Powys yn defnyddio'r broses Safleoedd Ymgeisiol i gasglu tystiolaeth addas oddi wrth gynigwyr safleoedd sy'n dangos yn gadarn cynaliadwyedd, cyflawnadwyedd a hyfywedd ariannol y safleoedd. Mae angen i gynigwyr gyflwyno tystiolaeth er mwyn galluogi'r Awdurdod Cynllunio Lleol i asesu'r canlynol:

  • Bod y safle mewn lleoliad cynaliadwy (fel y'i diffinnir yn Rhifyn 11 o Bolisi Cynllunio Cymru) ac y gellir ei ryddhau o bob cyfyngiad.
  • Y gellir cyflawni ysafle.
  • Bod y safle'n hyfyw.

2.2.2 Mae'r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu (Argraffiad 3) yn awgrymu y dylai'r dystiolaeth a gyflwynwyd gan gynigwyr safleoedd i ddangos cyflawnadwyedd a hyfywedd ymdrin â'r pwyntiau canlynol:

  • Mae'r safle mewn lleoliad cynaliadwy (yn unol â'r drefn chwilio safleoedd a nodir ym Mholisi Cynllunio Cymru (Rhifyn 11) a ddylai lywio methodoleg asesu safleoedd ymgeisiol yr Awdurdod Cynllunio Lleol).
  • Mae'r safle ar gael yn awr neu bydd ar gael ar adeg briodol o fewn cyfnod y cynllun.
  • Yn gyffredinol mae'r safle yn rhydd o gyfyngiadau ffisegol, megis perchnogaeth tir, seilwaith, mynediad, cyflwr y ddaear, bioamrywiaeth, tirwedd, treftadaeth, problemau peryglon llifogydd a llygredd.
  • Os yw'r safle yn eiddo cyhoeddus fe'i nodir mewn strategaeth waredu gyhoeddedig, neu drwy benderfyniad y Cyngor os bwriedir i'r tir gael ei gadw neu ei werthu gan y Cyngor.
  • Beth yw'r hanes cynllunio - a yw'r safle yn elwa ar ganiatâd cynllunio sy'n bodoli eisoes, neu a yw'n cael ei nodi fel dyraniad yn y CDLl Mabwysiedig presennol?
  • Lle bo'n briodol, esboniad a chyfiawnhad clir o sut a phryd y gellir goresgyn unrhyw rwystrau rhag cyflawni.
  • Mae potensial datblygu ar gyfer y defnydd arfaethedig. Ar y cyfan, mae'r safle'n ddeniadol i'r farchnad (y sector preifat a/neu gyhoeddus) i'w ddatblygu yn y lleoliad arfaethedig.
  • Gall y safle gynnwys y lefelau eang o dai fforddiadwy, gofynion polisi / Adran 106 eraill a chostau seilwaith a nodir gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.
  • Lle mae diffygion ariannol yn rhwystro datblygiad rhag cael ei gyflwyno, mae mecanweithiau ariannu yn cael eu sicrhau, neu'n gallu cael eu sicrhau i wneud y safle'n hyfyw yn ariannol.

2.2.3 Er mwyn cynorthwyo cynigwyr safleoedd i ymdrin â'r pwyntiau a restrir, bydd y "Ffurflen Safleoedd Ymgeisiol" yn cynnwys cyfres o gwestiynau mewn cysylltiad â'r uchod, i ddarparu ar gyfer asesiad o'r safle a'i gyflawnadwyedd. Bydd y meini prawf sydd wedi'u cynnwys yn y ffurflen gyflwyno yn cael eu dewis i alluogi'r Awdurdod Cynllunio Lleol i nodi safleoedd y bernir eu bod yn addas i'w hystyried ymhellach ac i annog ymgeiswyr i gyflwyno gwybodaeth ychwanegol pan fo hynny'n briodol.

2.2.4 Bydd yn ofynnol gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol bod Asesiad o Hyfywedd yn cael ei gynnwys wrth gyflwyno safleoedd (gweler paragraffau 4.2.9 a 6.2.23). Gall hefyd ofyn am wybodaeth ychwanegol megis arolygon ecolegol, asesiadau o ganlyniadau llifogydd, astudiaethau draenio, asesiadau o effaith traffig, ac unrhyw dystiolaeth arall y gallai fod ei hangen i ddangos y gellir cyflawni'r safle. Mae cynigydd y safle yn gyfrifol am wneud unrhyw waith technegol (yn cynnwys costau ariannol) sydd ei angen i gefnogi cynnwys y safle yn y CDLl Newydd.

2.2.5 I gefnogi'r gwaith o baratoi cyflwyniadau Safleoedd Ymgeisiol, bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn llunio map cyfyngiadau rhyngweithiol. Bydd hwn yn galluogi cynigwyr safleoedd i nodi'n rhwydd unrhyw gyfyngiadau sy'n gysylltiedig â safleoedd, ac i nodi a fydd angen gwybodaeth ychwanegol fel rhan o broses asesu safleoedd ymgeisiol yr Awdurdod Cynllunio Lleol.

2.3 Strategaeth y CDLl Newydd a Hierarchaeth Aneddiadau

2.3.1 Mae Polisi Cynllunio Cymru (PCC) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Cynllunio Lleol flaenoriaethu'r defnydd o dir a ddatblygwyd o'r blaen yn y broses dewis safle. Mae hefyd yn cynghori y dylid rheoli adeiladu tai newydd a datblygiadau newydd eraill (manwerthu, cyflogaeth ac ati) yn y cefn gwlad agored, yn bell o aneddiadau sefydledig, yn llym. Mae safleoedd ymgeisiol a gynigir ar gyfer defnydd, megis tai a chyflogaeth, mewn lleoliadau ynysig yn bell o aneddiadau diffiniedig yn annhebygol o fod yn dderbyniol.

2.3.2 Dylai cynigwyr safleoedd ystyried sut mae'r Safleoedd Ymgeisiol, y maent yn eu cynnig, yn cyd-fynd â Strategaeth y CDLl mabwysiedig a hierarchaeth aneddiadau yn y lle cyntaf. Fodd bynnag, wrth i'r CDLl Newydd fynd yn ei flaen, rhagwelir y bydd diwygiadau i Strategaeth y CDLl a hierarchaeth aneddiadau a fydd yn cael effaith ar y broses o ddewis safle. Yn hyn o beth, bydd rôl a swyddogaeth yr anheddiad, ynghyd â'i safle o fewn yr hierarchaeth aneddiadau ac agosrwydd Safleoedd Ymgeisiol at ffiniau aneddiadau presennol hefyd yn rhan o'r ystyriaethau wrth benderfynu addasrwydd safleoedd. Wrth baratoi Strategaeth y CDLl Newydd, bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol hefyd yn ystyried Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040 (cyhoeddwyd 2021), yn enwedig lleoliad Ardaloedd Twf Rhanbarthol a dalgylchoedd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Afonol sensitif i ffosffad.

2.3.3 Dylai cynigwyr safleoedd hefyd ystyried Cymru'r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040 (Polisi 6) sy'n gofyn bod cyfleusterau masnachol, manwerthu, addysg, iechyd, hamdden a gwasanaeth cyhoeddus newydd a sylweddol yn cael eu lleoli yng nghanol trefi. Dylai safleoedd o'r fath fod â mynediad da ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus i'r dref gyfan a phan fo hynny'n briodol, y rhanbarth ehangach. Rhaid defnyddio dull dilyniannol o weithredu i lywio'r broses o nodi'r lleoliad gorau ar gyfer y datblygiadau hyn y byddai angen eu nodi yn y CDLl Newydd.

2.4 Dyraniadau Presennol y CDLl

2.4.1 Bydd angen i ddyraniadau safleoedd yn y CDLl Mabwysiedig presennol sydd heb ganiatâd cynllunio sy'n bodoli eisoes, gael eu hailwerthuso drwy broses asesu Safleoedd Ymgeisiol. O ganlyniad, mae'n rhaid i berchnogion / datblygwyr dyraniadau safleoedd presennol y CDLl wneud cyflwyniad Safleoedd Ymgeisiol i ddangos bod eu safle yn un y gellir ei gyflawni ac egluro pam nad yw caniatâd cynllunio wedi'i sicrhau hyd yma. Yn absenoldeb tystiolaeth gyfoes bod safle sydd wedi'i ddyrannu eisoes ar gael ac y gellir ei gyflawni, mae'n annhebygol y bydd safleoedd o'r fath yn cael eu hystyried yn addas ar gyfer eu hail-ddyrannu yn y CDLl Newydd sydd ar y ffordd.

2.5 Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ISA) / Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA)

2.5.1 Mae gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol ofyniad statudol i gynnal Arfarniad Cynaliadwyedd ac Asesiad Amgylcheddol Strategol (SA/SEA) y CDLl Newydd. Bydd hwn yn cael ei ymgorffori fel rhan o Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ISA), a fydd hefyd yn cynnwys Asesiad o'r Effaith ar Iechyd, Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg, a'r Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb. Darperir rhagor o fanylion yn Adran 6 ynghylch sut a phryd y bydd Safleoedd Ymgeisiol yn cael eu hasesu fel rhan o ISA, mae'r meini prawf i'w defnyddio yn Atodiad 1.

2.5.2 Bydd angen i'r Cyngor hefyd sicrhau na fydd y CDLl Newydd yn cael unrhyw effaith sylweddol (yn unig ac yn gyfunol) ar y Rhwydwaith Safle Cenedlaethol (Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd - HRA) wrth ei weithredu. Mae'r Fethodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol wedi'i drafftio i ystyried canllawiau cynllunio Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy'n ei gwneud yn ofynnol i gynigion datblygu mewn dalgylchoedd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Afonol i ddangos y byddent yn cyflawni niwtraliaeth ffosffad neu welliant.

Os ydych chi’n cael trafferth defnyddio’r system, rhowch gynnig ar ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig