Drafft Ymgynghorol Methodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol

Daeth i ben ar 10 Hydref 2022
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

3. Proses Asesu Safleoedd Ymgeisiol

3.1.1 Mae'n hanfodol bod y tir sy'n cael ei ddyrannu ar gyfer ei ddatblygu yn y CDLl Newydd yn bodloni amcanion y CDLl Newydd ac y gellir ei ddatblygu o fewn cyfnod y Cynllun. Er mwyn cyflawni hyn, bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn cynnal Proses Asesu Safleoedd Ymgeisiol gynhwysfawr sy'n glir, gwrthrychol, a thryloyw wrth i Safleoedd Ymgeisiol symud ymlaen drwyddi.

3.1.2 Mae Ffigur 1 yn nodi gwahanol gamau'r Broses Asesu Safleoedd Ymgeisiol. Mae'r adrannau canlynol yn y ddogfen hon yn manylu ar y camau unigol.

Ffigur 1. Camau'r Broses Asesu Safleoedd Ymgeisiol

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig