Drafft Ymgynghorol Methodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol

Daeth i ben ar 10 Hydref 2022
Os ydych chi’n cael trafferth defnyddio’r system, rhowch gynnig ar ein canllaw cymorth.

5. Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol / Camau Ymgynghori'r Strategaeth a Ffefrir

5.1 Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol

5.1.1 Bydd pob un o'r Safleoedd Ymgeisiol a gyflwynir ar gael i'w gweld ar dudalennau gwe ACLlau yn yr hyn a elwir yn 'Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol'. Bydd canlyniadau'r cam hidlo safleoedd cychwynnol hefyd ar gael i'r cyhoedd fel rhan o gyhoeddi'r Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol.

5.2 Ymgynghoriad Strategaeth a Ffefrir

5.2.1 Bydd y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol yn cael ei chyhoeddi'n rhan o ymgynghoriad statudol Strategaeth a Ffefrir y CDLl Newydd (Mai/Mehefin 2023). Bydd unrhyw safleoedd allweddol i'r strategaeth (Safleoedd Strategol) yn cael eu cyhoeddi o fewn y Strategaeth a Ffefrir ei hun. Bydd ACLl yn gwahodd sylwadau ar unrhyw Safleodd Strategol a'r safleoedd yn y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol.

5.2.2 Bydd Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol yn cynnwys manylion am statws pob safle ac yn ei gwneud hi'n hawdd adnabod y rhai sy'n weddill yn y broses asesu. Bydd canlyniadau'r asesiad hidlo safle cychwynnol hefyd yn cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â Chofrestr Safleoedd Ymgeisiol yng ngham ymgynghori'r Strategaeth a Ffefrir.

5.3 Sylwadau'r Ymgyngoreion

5.3.1 Dim ond y safleoedd hynny nad ydynt wedi'u hidlo allan o'r broses hidlo safleoedd gychwynnol bydd yn destun ymgynghoriad gyda'r ymgyngoreion perthnasol. Bydd hyn yn cynnwys adrannau mewnol y Cyngor megis priffyrdd, tir halogedig, draenio tir ac addysg a sefydliadau allanol megis Priffyrdd Llywodraeth Cymru, Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys (YACP), Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), darparwyr seilwaith, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth Cymru a'r Bwrdd Iechyd. Bydd hyn yn sicrhau bod cyrff o'r fath dim ond yn gwneud sylwadau ar safleoedd sydd â siawns resymol o gael eu cynnwys yn y CDLl Newydd. Bydd amseriad y gwaith o geisio sylwadau yn cyd-fynd ag ymgynghoriad y Strategaeth a Ffefrir. Fodd bynnag, bydd ymdrechion yn cael eu gwneud i sicrhau y bydd data'r Safleoedd Ymgeisiol ar gael o leiaf mis cyn dechrau'r ymgynghoriad statudol er mwyn sicrhau bod gan gyrff o'r fath y capasiti i ymateb yn amserol.

Os ydych chi’n cael trafferth defnyddio’r system, rhowch gynnig ar ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig