Drafft Ymgynghorol Methodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol
7. Cynllun Adnau – Cam Olaf Dewis Safleoedd
7.0.1 Bydd y cam asesu safleoedd manwl yn cael ei ddefnyddio i hidlo Safleoedd Ymgeisiol nad ydynt yn gallu dangos cynaliadwyedd, cyflawnadwyedd a hyfywedd. Bydd y safleoedd sydd weddill yn y broses yn cael eu hystyried yn ofalus er mwyn penderfynu pa rai sydd fwyaf addas ar gyfer y dyraniadau yn y CDLl Newydd.
7.0.2 Yn ogystal â'r asesiad manwl o'r safle, ystyrir sut mae safleoedd yn perfformio o gymharu ag asesiad safle o fewn fframwaith yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ISA) (Atodiad 1). Bydd asesiad safle ISA yn penderfynu a oes gan safle raddfeydd amrywiol o effeithiau positif neu negyddol (neu ddibwys) yng nghyd-destun ei amgylchedd ac mewn cysylltiad â phob un o amcanion yr ISA.
7.0.3 Lle ceir nifer o safleoedd cynaliadwy, cyflawnadwy a hyfyw i ddewis ohonynt o fewn anheddiad, ystyrir hefyd sylwadau a wnaed ar y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol (a wnaed ar adeg ymgynghoriad Strategaeth a Ffefrir y CDLl Newydd), mewn rhai achosion ceisir rhagor o adborth rhanddeiliaid. Bydd y safleoedd mwyaf addas a'r rhai a ffefrir fwyaf yn cael eu dangos ar fapiau mewnosod yn y Cynllun Adnau a fydd ar gael i ymgynghori yn ei gylch o fis Chwefror i fis Mawrth 2024.
7.0.4 Bydd yr ymgynghoriad ar y CDLl Newydd Adnau yn gyfle i'r holl randdeiliaid roi sylwadau ar y safleoedd a ddyrannwyd. Gellir cyflwyno sylwadau i ofyn am ddiwygio ffiniau dyraniad, i gynnig bod y safle yn cael ei ddileu, neu ar gyfer ychwanegu safleoedd newydd. Bydd yn ofynnol i unrhyw safleoedd newydd a gynigir mewn ymateb i'r cam ymgynghori Adnau gyflwyno ISA yn seiliedig ar fframwaith yr Awdurdod Cynllunio Lleol, dylid ystyried hefyd sut mae'r safle'n cyd-fynd â methodoleg asesu Safleoedd Ymgeisiol.
7.0.5 Wrth baratoi ar gyfer yr Archwiliad mae Llywodraeth Cymru yn argymell y dylai'r ACLl gael rhestr o safleoedd posibl wrth gefn wedi'u blaenoriaethu y gellid eu cynnig fel dewisiadau amgen (yn lle'r safleoedd a ddyrannwyd yn y Cynllun Adnau) a'u hychwanegu at y cynllun, pe bai angen safleoedd ychwanegol ar ôl i'r cynllun gael ei ystyried trwy'r gwrandawiadau ffurfiol yn yr Archwiliad Cyhoeddus. Nid yw safleoedd wrth gefn yn ddyraniadau, maent yn safleoedd y mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried yn addas ac y gellir eu cyflawni mewn cysylltiad â'r strategaeth ond nid ydynt wedi eu cynnwys o fewn y CDLl Newydd Adnau. Gall safleoedd sydd wedi gallu dangos cynaliadwyedd, cyflawnadwyedd a hyfywedd drwy asesiad safle manwl ond sydd heb eu dewis i fod yn ddyraniadau yn y CDLl Newydd (oherwydd dewiswyd safle mwy ffafriol) gael eu dewis yn 'Safleoedd Wrth Gefn'. Bydd rhanddeiliaid allweddol perthnasol yn cael gwybod am unrhyw safleoedd wrth gefn a byddant yn cael cyfle i wneud sylwadau.