Drafft Ymgynghorol Methodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol

Daeth i ben ar 10 Hydref 2022
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

Atodiad 1 – Fframwaith Arfaethedig ar gyfer Gwerthuso Safleoedd ACI

Rhagarweiniad

Mae'r fframwaith arfaethedig i werthuso safleoedd Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ACI) isod yn rhan o asesiad safle ehangach sy'n cynnwys proses hidlo fydd yn eithrio'r safleoedd hynny sy'n methu bodloni'r meini prawf sylfaenol megis risg o lifogydd, problemau gyda phriffyrdd neu lle mae gwrthdaro amlwg o safbwynt asedau bioamrywiaeth. Mae Llawlyfr Cynlluniau Datblygu (Rhifyn 3) Mawrth 2020 yn awgrymu y dylai'r broses fel cyfanwaith alluogi ateb y cwestiynau canlynol:

  • Ydy'r safle mewn lleoliad cynaliadwy yn unol â'r drefn chwilio safle a amlinellir ym Mholisi Cynllunio Cymru 11 (PCC)?
  • Ar y cyfan, ydy'r safle'n rhydd rhag cyfyngiadau corfforol, megis perchnogaeth tir, seilwaith, mynediad, cyflwr y ddaear, bioamrywiaeth, tirwedd, treftadaeth, problemau o ran risg o lifogydd a llygredd?
  • A fydd yn bosibl cyflawni ar y safle (hynny yw, a yw'n bosibl datblygu'r safle o fewn cyfnod y cynllun, neu fel arall gwneud cynnydd sylweddol)?
  • Ydy datblygiad y safle'n hyfyw o safbwynt ariannol? Sef, ydy'r safle'n ddeniadol i'r farchnad (boed yn breifat a/neu sector cyhoeddus), a fydd y safle'n gallu cyflawni'r lefelau cyffredinol o ran tai fforddiadwy, gofynion polisi eraill / Adran 106 a chostau seilwaith a bennir gan yr ACLl ac ar yr un pryd, darparu elw digonol i'r datblygwr / perchennog y tir?

Byddai safleoedd sy'n bodloni'r meini prawf didoli cychwynnol yn destun asesiad yn erbyn fframwaith gwerthuso safleoedd ACI. Bydd yr wybodaeth a gesglir yn ystod y broses o asesu safleoedd ymgeisiol, ynghyd â ffynonellau tystiolaeth eraill, yn hysbysu'n uniongyrchol yr ACI ar y safleoedd hynny. Mae'n debyg y caiff safleoedd sy'n perfformio'n isel yn erbyn y fframwaith ACI eu heithrio rhag cael eu hystyried ymhellach.

Defnyddir arfau SGDd i gynnal gwerthusiad o opsiynau safleoedd yn dibynnu ar y nodweddion a'r mesuriadau sydd eu hangen, trwy:

1. Fesur y pellter mewn llinell syth, o nodwedd i opsiwn safle ac i ba raddau mae'n gorgyffwrdd ag unrhyw nodweddion o fewn opsiwn safle, trwy ddefnyddio mesuriadau a gymerir o ffin agosaf yr opsiwn safle a'r nodwedd dan sylw.

Neu

2. Pellterau o safle at ffyrdd a llwybrau troed, trwy fesur o ffin y safle lle bydd o fewn 20 metr i'r rhwydwaith ffyrdd/llwybrau troed ac felly ystyrir fod mynediad yn bodoli.

Mae tabl A0 yn nodi'r system sgorio fydd yn cael ei ddefnyddio ar y cyd â meini prawf gwerthuso sy'n benodol i'r gwrthrych, fel yr amlinellir yn Nhablau A1 - A15 isod.

Tabl A0 System Sgorio wrth Asesu Safle ACI

Symbol

Sgôr

Disgrifiad

Cam gweithredu

++

Effaith gadarnhaol arwyddocaol

Mae'r cynnig yn gwneud cyfraniad arwyddocaol at wireddu'r amcan.

Dd/B

+

Mân effaith gadarnhaol

Mae'r cynnig yn cyfrannu at wireddu'r amcan, ond nid i raddau arwyddocaol.

Ystyried unrhyw fesurau cyfoethogi pellach.

0

Niwtral/dim effaith

Nid yw'r cynnig yn cael unrhyw effaith ar wireddu'r amcan.

Ystyried a fyddai ymyrraeth yn gallu arwain at effaith gadarnhaol.

-

Mân effaith negyddol

Mae'r cynnig yn tynnu oddi ar wireddu'r amcan, ond nid i raddau arwyddocaol.

Ystyried mesurau lliniaru priodol a chyfleoedd cyfoethogi.

--

Effaith negyddol arwyddocaol

Mae'r cynnig yn tynnu oddi ar wireddu'r amcan i raddau arwyddocaol.

Asesu dichonolrwydd (o safbwynt ymarferoldeb a chost) mesurau lliniaru i leihau difrifoldeb yr effaith

Os nad yw mesurau lliniaru digonol yn hyfyw, ail-ystyried y cynnig.

?

Effaith ansicr

Mae gan y cynnig gysylltiad ansicr â'r amcan, neu mae'r cysylltiad yn dibynnu ar y ffordd y caiff yr agwedd ei rheoli. Yn ogystal, hwyrach nad oes digon o wybodaeth ar gael i alluogi cyflawni gwerthusiad.

Cynnig awgrymiadau o safbwynt cyflawni.

Mae angen gwybodaeth bellach.

 

Fframwaith Arfaethedig ar gyfer Gwerthuso Safleoedd ACI

ACI Amcan 1 - Darparu cartrefi a seilwaith cymunedol o ansawdd da i fodloni anghenion a nodwyd

Cwestiynau Gwerthuso'r Safle

  • Ydy'r cynnig ar gyfer y datblygiad arfaethedig yn cefnogi darparu tai, gan gynnwys tai fforddiadwy?
  • Oes cysylltiad corfforol rhwng y lleoliad arfaethedig ac anheddiad sy'n bodoli eisoes, sy'n gallu cael ei wasanaethu gan unrhyw seilwaith angenrheidiol (e.e. trwy uwchraddio)?
  • Oes gan y safle/datblygiad arfaethedig y potensial i gyflenwi cyfleusterau i'r gymuned?

Tabl A1 ACI Amcan 1 Meini Prawf Gwerthuso Safle

Sgôr

Meini Prawf

++

Mae gan y safle gapasiti (dros 5 anheddle), yn amodol ar yr hierarchaeth anheddiad) i gyflenwi cartrefi newydd, gyda chysylltiadau corfforol da ag anheddiad sy'n bodoli eisoes, a gall cyflenwi cyfleusterau i'r gymuned (yn ôl yr hierarchaeth anheddiad a meini prawf dangosol yn y troednodyn*)

+

Mae gan y safle gapasiti (dros 5 anheddle), yn amodol ar yr hierarchaeth anheddiad) i gyflenwi cartrefi newydd, gyda chysylltiad da ag anheddiad sy'n bodoli eisoes (yn ôl yr hierarchaeth anheddiad a meini prawf dangosol yn y troednodyn)

0

Gall y safle gyflenwi cartrefi a gwasanaethau newydd heb unrhyw rinweddau eraill

-

Gall y safle gyflenwi cartrefi a gwasanaethau newydd; fodd bynnag, does dim cysylltiad corfforol da ag anheddiad arall sy'n bodoli eisoes (yn ôl yr hierarchaeth anheddiad a meini prawf dangosol yn y troednodyn)

--

Nid oes cysylltiad da rhwng y safle ac anheddiad sy'n bodoli eisoes, nid oes gwasanaethau i'w wasanaethu ac ni fyddai'n darparu cyfleusterau i'r gymuned (yn ôl yr hierarchaeth anheddiad a meini prawf dangosol yn y troednodyn)

?

Effaith ansicr

*Gweler Troednodyn Tabl: Meini Prawf Hygyrchedd Dangosol ar gyfer y troednodyn.

ACI Amcan 2 – Creu a chefnogi economi a gweithlu cadarn, amrywiol a gwydn

Cwestiynau Gwerthuso'r Safle

  • A fydd y cynnig yn cynnig cyfleusterau cyflogaeth a/neu'n cefnogi anghenion busnesau i ehangu, adleoli, arallgyfeirio ac ati?
  • Ydy'r cynigion yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth a/neu'r potensial i uwchsgilio'r gweithlu lleol?

Tabl A2 ACI Amcan 2 Meini Prawf Gwerthuso'r Safle

Sgôr

Meini Prawf

++

Bydd y safle'n darparu ystod o gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant fydd o fudd i'r ardal leol, ac yn cyflenwi darpariaeth bresennol

+

Bydd y safle'n cynnig ystod o gyfleoedd cyflogaeth

0

Ni fydd y cynnig yn cyfrannu at, nac yn tynnu oddi ar, yr amcan

-

Bydd datblygu'r safle'n arwain at golli tir a ddynodir ar gyfer cyflogaeth

--

Bydd datblygu'r safle'n arwain at golli tir a ddynodir ar gyfer cyflogaeth a busnesau yn yr ardal

?

Effaith ansicr

 

ACI Amcan 3 – Lleihau tlodi ac anghydraddoldeb;trechu allgáu cymdeithasol a hyrwyddo cydlyniant cymunedol

Cwestiynau Gwerthuso'r Safle

  • A fydd datblygu'r safle hwn yn cynnig cyfle penodol i feithrin cymuned fwy cynaliadwy? (e.e. a yw'n bosibl sicrhau gwelliannau i seilwaith corfforol neu gymdeithasol)
  • Ydy Cyngor y Dref/y Cyngor Cymuned yn cefnogi'r cynnig?

Tabl A3 ACI Amcan 3 Meini Prawf Gwerthuso'r Safle

Sgôr

Meini Prawf

++

Mae'r datblygiad yn debygol o arwain at welliant sylweddol o ran darpariaeth o a/neu fynediad at ddarpariaeth cyflogaeth / addysg / gwasanaethau e.e. trwy gyfleusterau cymunedol newydd

+

Mae gan y datblygiad botensial i wella darpariaeth o a/neu fynediad at ddarpariaeth cyflogaeth / addysg / gwasanaethau e.e. trwy gyfleusterau cymunedol newydd

0

Ni fydd y cynnig yn cyfrannu at, nac yn tynnu oddi ar, yr amcan

-

Does dim cyfleoedd i wella darpariaeth o a/neu fynediad at ddarpariaeth cyflogaeth / addysg / gwasanaethau

--

Byddai'r datblygiad yn arwain at golli cyfleusterau cymunedol

?

Effaith ansicr

 

ACI Amcan 4 – Diogelu, hyrwyddo a chyfoethogi'r Gymraeg a diwylliant Cymreig Cwestiynau'r Gwerthusiad

  • Ydy'r cynnig wedi'i leoli mewn Ardal sy'n Sensitif o Safbwynt Y Gymraeg?
  • Oes gan y lleoliad a/neu faint y cynnig botensial i gael effaith niweidiol ar ddefnydd o'r Gymraeg?
  • Ydy'r cynnig yn bodloni ystod o fathau gwahanol o dai a deiliadaethau i ddiwallu anghenion lleol, yn benodol darparu tai fforddiadwy a chartrefi arbenigol?
  • Ydy'r cynnig yn bodloni gofynion o safbwynt anghenion gwaith lleol?
  • Fydd y cynnig yn cynyddu neu'n lleihau'r cyfleoedd i bobl i ddefnyddio'r Gymraeg mewn sefyllfaoedd cymdeithasol neu yn y gweithle?
  • Pa gyfleoedd sy'n deillio o'r cynnig o safbwynt datblygu sgiliau Iaith Gymraeg ac yn hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg o fewn y gymuned?
  • Ydy'r cynnig yn golygu cyfleuster neu wasanaeth newydd yn y gymuned, neu'n gwella mynediad at gyfleusterau neu wasanaethau cymunedol sy'n bodoli eisoes?

Tabl A4 ACI Amcan 4 Meini Prawf Gwerthuso'r Safle

Sgôr

Meini Prawf

++

Mae datblygu'r safle'n golygu cynnwys mesurau priodol i ddiogelu, hyrwyddo a gwella defnydd o'r Gymraeg, ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfleuster neu wasanaeth cymunedol newydd neu'n gwella mynediad at gyfleusterau neu wasanaethau cymunedol sy'n bodoli eisoes.

+

Mae datblygiad o'r safle'n cynnwys mesurau priodol i ddiogelu, hyrwyddo a gwella defnydd o'r Gymraeg.

0

Nid yw'r safle mewn Ardal sy'n Sensitif o Safbwynt y Gymraeg

-

Mae gan y safle gapasiti ar gyfer mwy na 5 anheddle a llai na 25 anheddle, neu ar gyfer mathau eraill o ddatblygiad, byddai arwynebedd llawr yr adeilad yn 1,000 metr sgwâr neu fwy, a llai na 2,000 metr sgwâr neu byddai'n cynnwys safle gydag ardal o 1 hectar neu fwy a llai na 2 hectar ac sydd o fewn Ardal sy'n Sensitif o Safbwynt y Gymraeg.

--

Mae gan y safle gapasiti ar gyfer 25 anheddle neu fwy, neu ar gyfer mathau eraill o ddatblygiad, byddai gan yr adeilad arwynebedd llawr o 2,000 metr sgwar neu fwy, neu byddai'n rhan o safle o fewn ardal o 2 hectar neu fwy, ac o fewn Ardal sy'n Sensitif o Safbwynt y Gymraeg

?

Effaith ansicr

 

ACI Amcan 5 – Gwella iechyd a llesiant pob sector o gymdeithas

Cwestiynau Gwerthuso'r Safle

  • Ydy'r safle mewn lleoliad sy'n annog iechyd a llesiant, gan gynnwys mynediad at ofal iechyd, gweithgareddau corfforol a theithio llesol a rhyngweithio ac ymgysylltiad â'r gymuned?
  • Gall y safle cyfrannu at ddarparu cyfleusterau sy'n hyrwyddo iechyd a llesiant?

Tabl A5 ACI Amcan 5 Meini Prawf Gwerthuso'r Safle

Sgôr

Meini Prawf

++

O fewn 1,000 metr i Feddygfa

+

Heb ei ddefnyddio

0

Rhwng 1,000 metr a 2,000 metr i Feddygfa

-

Heb ei ddefnyddio

--

Dros 2,000 metr i Feddygfa

?

Effaith ansicr

 

ACI Amcan 6 – Gwneud y defnydd gorau o dir a ddatblygwyd eisoes ac adeiladau presennol a diogelu tir amaethyddol graddfa uwch

Cwestiwn Gwerthuso'r Safle

  • Fydd datblygu'r safle hwn yn osgoi colli tir amaethyddol Gorau a Mwyaf Amlbwrpas (GMA)?

Tabl A6 ACI Amcan 6 Meini Prawf Gwerthuso'r Safle

Sgôr

Meini Prawf

++

Safle tir llwyd yn gyfan gwbl yw hwn, ac o fewn neu ar ymyl anheddiad sy'n bodoli eisoes

+

Safle tir llwyd rhannol yw hwn o fewn neu ar ymyl anheddiad (> 50%) ac sy'n cynnwys tir amaethyddol isel ei ansawdd (Graddfa 3b, 4, trefol)

0

Safle tir glas rhannol yw hwn (> 50%) ac sy'n cynnwys tir amaethyddol isel ei ansawdd (Graddfa 3b, 4, trefol)

-

Safle tir glas rhannol yw hwn (> 50%) gyda thir amaethyddol uchel ei ansawdd (Graddfa 1, 2 a 3a)

--

Safle tir glas yn gyfan gwbl yw hwn, sy'n cynnwys tir amaethyddol uchel ei ansawdd (Graddfa 1, 2 a 3a)

?

Effaith ansicr

 

ACI Amcan 7 –Gwarchod, diogelu a gwella ansawdd dŵr ac adnoddau dŵr

Cwestiwn Gwerthuso'r Safle

  • Oes disgwyl y gellir datblygu'r safle heb effaith niweidiol ar adnoddau dŵr neu ansawdd dŵr?

Tabl A7 ACI Amcan 7 Meini Prawf Gwerthuso'r Safle

Sgôr

Meini Prawf

++

Heb ei ddefnyddio

+

Gall y cynnig gyfrannu at gyfoethogi ansawdd dŵr, e.e. trwy ymgorffori mesurau oddi ar y safle

0

Ni fydd y cynnig yn cyfrannu at, nac yn tynnu oddi ar, yr amcan

-

Gall y cynnig gael effaith niweidiol ar ansawdd dŵr e.e. trwy'r potensial ar gyfer gollyngiadau

--

Heb ei ddefnyddio

?

Effaith ansicr

 

ACI Amcan 8 – Lleihau cymaint â phosibl neu leihau ffynonellau ac effaith llygredd aer

Cwestiwn Gwerthuso'r Safle

  • Fydd y cynigion datblygu'n annog siwrneiau drwy ddull cynaliadwy (teithio llesol a/neu gludiant cyhoeddus) yn unol â'r hierarchaeth teithio cenedlaethol?

Tabl A8 ACI Amcan 8 Meini Prawf Gwerthuso'r Safle

Sgôr

Meini Prawf

++

Heb ei ddefnyddio

+

Cyfleoedd i hyrwyddo teithio cynaliadwy a gwireddu'r hierarchaeth teithio cenedlaethol

0

Ni fydd y cynnig yn cyfrannu at, nac yn tynnu oddi ar, yr amcan

-

Ni fydd datblygu'r safle yn cyfrannu tuag at wireddu'r hierarchaeth teithio cenedlaethol

--

Heb ei ddefnyddio

?

Effaith ansicr

 

ACI Amcan 9 – Lleihau'r gwastraff a gynhyrchir, annog ail-ddefnyddio ac ailgylchu, a hyrwyddo defnydd effeithlon o adnoddau mwynau

Cwestiwn Gwerthuso'r Safle

Ni fu'n bosibl adnabod meini prawf penodol o ran lefel y safle ar gyfer yr Amcan ACI yma.

Tabl A9 ACI Amcan 9 Meini Prawf Gwerthuso'r Safle

Sgôr

Meini Prawf

++

Heb ei ddefnyddio

+

Heb ei ddefnyddio

0

Ystyrir fod hyn yn niwtral ar draws prosiectau, oherwydd gall pob prosiect gyfrannu at yr amcan hwn i raddau. Byddai gwastraff cartrefi'n cael ei reoli'n unol â'r system sy'n bodoli eisoes ar gyfer casgliadau ochr y ffordd.

-

Heb ei ddefnyddio

--

Heb ei ddefnyddio

?

Heb ei ddefnyddio

 

ACI Amcan 10 – Cefnogi gwydnwch Powys o ran effaith botensial newid hinsawdd, gan gynnwys llifogydd a digwyddiadau eithriadol eraill

Cwestiwn Gwerthuso'r Safle

  • Ydy'r safle'n rhydd rhag risg o lifogydd, neu a brofwyd y gellir rheoli unrhyw risg o lifogydd mewn ffordd dderbyniol?

Tabl A10 ACI Amcan 10 Meini Prawf Gwerthuso'r Safle

Sgôr

Meini Prawf

++

Byddai datblygu'r safle'n lleihau'r risg o lifogydd

+

Nid yw'r safle mewn ardal lle mae risg uchel o lifogydd (parth llifogydd 2 a 3)

0

Mae'r safle'n rhannol mewn ardal lle mae risg uchel o lifogydd (parth llifogydd 2 a 3)

-

Mae'r safle'n gorgyffwrdd ag ardal lle mae risg o lifogydd (parth llifogydd 2 a 3)

--

Mae'r safle cyfan mewn parth llifogydd 2 neu 3.

?

Effaith ansicr

 

ACI Amcan 11 - Lleihau'r cyfraniad at newid hinsawdd oherwydd allyriadau nwyon tŷ gwydr

Cwestiwn Gwerthuso'r Safle

  • Ydy'r safle'n galluogi cyd-leoli defnydd masnachol a phreswyl er mwyn cynnig cyfle ar gyfer darpariaeth lleihau ynni/ynni adnewyddadwy (e.e. cynlluniau gwresogi ardal a chynhyrchu gwres)

Tabl A11 ACI Amcan 11 Meini Prawf Gwerthuso'r Safle

Sgôr

Meini Prawf

++

Byddai datblygu'r safle'n gwneud cyfraniad arwyddocaol at gynhyrchu ynni adnewyddadwy a/neu'n hyrwyddo mesurau cynaliadwyedd ehangach, e.e. trwy allforio ynni a gynhyrchir i'r grid.

+

Byddai datblygu'r safle'n cyfrannu at gynhyrchu ynni adnewyddadwy a/neu fesurau cynaliadwyedd ehangach

0

Ni fyddai'r cynnig yn cyfrannu at, nac yn tynnu oddi ar, yr amcan

-

Heb ei ddefnyddio

--

Heb ei ddefnyddio

?

Effaith ansicr

 

ACI Amcan 12 - Hyrwyddo defnydd o gludiant cynaliadwy a lleihau'r angen i deithio

Cwestiwn Gwerthuso'r Safle

  • Ydy lleoliad y safle yn annog newid i ddefnyddio dulliau teithio mwy cynaliadwy (e.e. a yw'n ganolog ac yn hygyrch i wasanaethau lleol a/neu'r rhwydwaith cludiant cyhoeddus heb rwystrau corfforol o safbwynt mynediad diogel trwy gerdded neu feicio)?

Tabl A12 ACI Amcan 12 Meini Prawf Gwerthuso'r Safle

Sgôr

Meini Prawf

++

Mae gan y safle fynediad rhagorol (<800m) at gludiant cyhoeddus, cyfleusterau cymunedol a llwybr teithio llesol (yn ôl yr hierarchaeth anheddiad a meini prawf dangosol y troednodyn)

+

Mae'r safle o fewn pellter cerdded (800m) i gludiant cyhoeddus, cyfleusterau cymunedol a llwybr teithio llesol (yn ôl yr hierarchaeth anheddiad a meini prawf dangosol y troednodyn)

0

Ni fydd y cynnig yn cyfrannu at, nac yn tynnu oddi ar, yr amcan

-

Nid yw'r safle o fewn pellter cerdded at gludiant cyhoeddus, cyfleusterau cymunedol a llwybr teithio llesol (yn ôl yr hierarchaeth anheddiad a meini prawf dangosol y troednodyn)

--

Mae'r safle >800m o gludiant cyhoeddus, cyfleusterau cymunedol a llwybr teithio llesol (yn ôl yr hierarchaeth anheddiad a meini prawf dangosol y troednodyn)

?

Effaith ansicr

 

ACI Amcan 13 – Gwarchod a chyfoethogi adnoddau treftadaeth Powys, gan gynnwys asedau adeiledig ac archeolegol

Cwestiwn Gwerthuso'r Safle

  • Ydy'r datblygiad yn debygol o gael effaith gadarnhaol ar ddiwylliant, hynodrwydd lleol a'r naws am le, gan gynnwys gwarchod asedau archeolegol ac asedau treftadaeth adeiledig?

Tabl A13 ACI Amcan 13 Meini Prawf Gwerthuso'r Safle

Sgôr

Meini Prawf

++

Bydd datblygu'r safle'n arwain at warchod a chyfoethogi asedau treftadaeth, e.e. trwy ddarparu defnydd buddiol ar gyfer ased sy'n bodoli

+

Mae potensial i ddatblygu'r safle gyfoethogi ased hanesyddol, e.e. trwy ei leoliad

0

Ni fydd y cynnig yn cyfrannu at, nac yn tynnu oddi ar, yr amcan

-

Mae'r safle'n cynnwys neu mae o fewn nodwedd treftadaeth o bwysigrwydd lleol / rhanbarthol (gan gynnwys Ardaloedd Cadwraeth ac asedau heb eu dynodi)

--

Mae'r safle'n cynnwys ased treftadaeth o bwysigrwydd cenedlaethol (Graddfa I, II* ac II, adeiladau rhestredig graddfa I, II* ac II, a pharciau a gerddi cofrestredig neu henebion cofrestredig)

?

Mae'r safle o fewn 500 metr i ased treftadaeth a does dim sicrwydd ynghylch effaith yr ased treftadaeth ar y lleoliad

 

ACI Amcan 14 - Gwarchod a chyfoethogi bioamrywiaeth a geoamrywiaeth a hyrwyddo gwelliannau i'r rhwydwaith seilwaith gwyrdd amlddefnydd

Cwestiynau Gwerthuso'r Safle

  • Ydy'r safle'n rhydd rhag cyfyngiadau / sensitifrwydd amgylcheddol megis cynefinoedd a rhywogaethau bregus, neu'n agos at y rhain?
  • Oes cyfleoedd penodol ar gyfer buddion ecolegol neu o ran bioamrywiaeth neu gwelliannau geoamrywiaeth ar y safle hwn (e.e. potensial i greu mannau gwyrdd, coridorau cynefinoedd ac ati, neu botensial i wella ansawdd dŵr, aer neu bridd?)

Tabl A14 ACI Amcan 14 Meini Prawf Gwerthuso'r Safle

Sgôr

Meini Prawf

++

Mae'r safle'n rhydd rhag cyfyngiadau bioamrywiaeth / geoamrywiaeth a bydd yn gwneud cyfraniad arwyddocaol o safbwynt cyfoethogi bioamrywiaeth / geoamrywiaeth ar y safle ac yn yr ardal gyfagos

+

Mae'r safle'n rhydd rhag cyfyngiadau bioamrywiaeth / geoamrywiaeth a bydd yn cyfrannu at gyfoethogi bioamrywiaeth / geoamrywiaeth ar y safle ac yn yr ardal gyfagos

0

Nid yw'r safle'n gorgyffwrdd ac nid yw o fewn 1cilometr i unrhyw safleoedd dynodedig.

-

Mae'r safle'n gorgyffwrdd neu gerllaw safle dynodedig rhanbarthol neu leol (RIGS, Gwarchodfa Natur Leol a SINC) a/neu gynefinoedd/rhywogaethau blaenoriaeth

--

Mae'r safle'n gorgyffwrdd neu gerllaw safle dynodedig rhyngwladol (ACA, AGA, Ramsar) neu genedlaethol (SODdGA, Coetir Hynafol).

?

Effaith ansicr

 

ACI Amcan 15 – Diogelu ansawdd ac amrywiaeth tirluniau a threfluniau'r Sir

Cwestiwn Gwerthuso'r Safle

  • A yw'n bosibl cynnwys y cynigion datblygu yn y dirwedd a'r amgylchedd lleol mewn ffordd sympathetig heb niweidio cymeriad a naws yr ardal? (yn enwedig wrth ystyried safle i'w ddatblygu ar dir glas a/neu ar ymyl anheddiad lle bydd y datblygiad yn ymestyn i gefn gwlad agored).

Tabl A15 ACI Amcan 15 Meini Prawf Gwerthuso'r Safle

Sgôr

Meini Prawf

++

Mae datblygu'r safle'n diogelu ac yn cyfoethogi'r dirwedd leol / cymeriad yr anheddiad, yn unol â meini prawf LANDMAP

+

Mae potensial i ddatblygu'r safle gyfoethogi'r dirwedd / cymeriad yr anheddiad yn unol â meini prawf LANDMAP

0

Ni fydd y cynnig yn cyfrannu at, nac yn tynnu oddi ar, yr amcan

-

Byddai datblygu'r safle'n peryglu'r dirwedd/cymeriad yr anheddiad yn unol â meini prawf LANDMAP

--

Byddai datblygu'r safle'n effeithio ar Dirwedd Warchodedig

?

Effaith ansicr


Troednodyn: Meini Prawf Hygyrchedd Dangosol

Cyfleusterau

Safonau Hygyrchedd Rhesymol (Uchafswm)

Ysgol Gynradd

600 metr

Ysgol Uwchradd

2000 metr

Gwasanaethau Iechyd

1000 metr

Cludiant Cyhoeddus

800 metr

Meysydd Chwaraeon / Caeau Chwarae / Canolfannau Hamdden

1000 metr

Siopau - siopau sy'n gwerthu nwyddau sylfaenol i fodloni anghenion dyddiol (tref, canolfannau lleol / bro)

1000 metr - 2000 metr

Gwaith - y pellter i safleoedd / dyraniadau gwaith lleol presennol

Hyd at 5000 metr

Addasiad o Sustainable Settlements: A Guide for Planners, Designers and Developers (Barton, Davis and Guise, 1995) a Shaping Neighbourhoods - for local health and global sustainability (2010)

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig